Rhufeiniaid 5 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Wedi ein cyfiawnhau, gan hyny, trwy ffydd, bydded heddwch genym gyda Duw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist,

2trwy’r Hwn y cawsom hefyd ein dyfodfa, trwy ffydd, i’r gras hwn, yn yr hwn yr ydym yn sefyll, a bydded i ni orfoleddu yn ngobaith gogoniant Duw;

3ac nid hyny yn unig, eithr bydded i ni orfoleddu yn ein gorthrymderau hefyd, gan wybod fod gorthrymder yn gweithredu dioddefgarwch;

4a dioddefgarwch, brofiad; a phrofiad, obaith;

5a gobaith ni chywilyddia, gan fod cariad Duw wedi ei dywallt allan yn ein calonnau trwy’r Yspryd Glân yr Hwn a roddwyd i ni.

6Canys Crist, a ni etto yn weiniaid, mewn pryd, tros annuwiolion y bu farw;

7canys braidd tros un cyfiawn y bydd neb farw, canys tros y dyn da, hwyrach hyd yn oed y beiddiai un farw.

8A chanmol Ei gariad Ei hun tuag attom y mae Duw, gan mai tra etto pechaduriaid oeddym trosom y bu Crist farw.

9Llawer mwy, gan hyny, wedi ein cyfiawnhau yn awr trwy Ei waed Ef, y byddwn gadwedig, trwyddo Ef, oddiwrth y digofaint.

10Canys os pan yn elynion y’n cymmodwyd â Duw trwy farwolaeth Ei Fab, llawer mwy, wedi ein cymmodi, y byddwn gadwedig trwy Ei fywyd Ef;

11ac nid hyny yn unig, eithr gorfoleddu hefyd yr ydym yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr Hwn yn awr y cawsom y cymmod.

12Am hyny, fel trwy un dyn y bu i bechod ddyfod i mewn i’r byd; a thrwy bechod, farwolaeth; ac felly ar bob dyn yr aeth marwolaeth,

13o herwydd i bawb bechu, canys hyd y Gyfraith yr oedd pechod yn y byd, a phechod ni chyfrifir pan nad oes cyfraith;

14eithr teyrnasodd marwolaeth o Adam hyd Mosheh, hyd yn oed tros y rhai na phechasant yn ol cyffelybiaeth trosedd Adam, yr hwn sydd gynllun yr Hwn oedd ar ddyfod.

15Eithr nid fel y camwedd, felly y dawn hefyd; canys os trwy gamwedd yr un y bu llawer feirw, llawer mwy y bu gras Duw a’r rhodd trwy ras yr un Dyn Iesu Grist mewn gorlawnder i laweroedd.

16Ac nid fel trwy un a bechodd y mae’r rhodd, canys y farn oedd o un i gondemniad, ond y dawn o lawer o gamweddau i gyfiawnhad.

17Canys os trwy gamwedd yr un y bu i farwolaeth deyrnasu trwy yr un, llawer mwy y rhai sy’n derbyn y gorlawnder o ras ac o rodd cyfiawnder, a deyrnasant mewn bywyd trwy yr Un, Iesu Grist.

18Gan hyny, ynte, fel trwy un camwedd y bu ar bob dyn i gondemniad, felly hefyd trwy un gwaith cyfiawn y bu ar bob dyn i gyfiawnhad bywyd;

19canys fel trwy anufudd-dod yr un dyn pechaduriaid y gwnaethpwyd y llawer, felly hefyd trwy ufudd-dod yr Un,

20cyfiawnion y gwneir y llawer. A’r Gyfraith hefyd a ddaeth i mewn fel yr amlhai y camwedd; ond lle yr amlhaodd pechod, rhagor mewn gorlawnder yr oedd gras;

21er mwyn fel y teyrnasodd pechod ym marwolaeth, felly hefyd y byddai i ras deyrnasu, trwy gyfiawnder, i fywyd tragywyddol trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help