Iöb 40 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XL.

1Yna yr attebodd Iehofah i Iöb, a dywedodd,

2Ai gan ymryson gyda ’r Hollalluog (yr ymrysona) beiwr?

A argyhoeddo Dduw, attebed i hynny!

3Yna yr attebodd Iöb i Iehofah, a dywedodd,

4Wele gwael ydwyf; pa beth a attebaf i Ti?

Fy llaw yr wyf yn ei gosod ar fy ngenau.

5Un waith y lleferais, ond ni lefaraf (mwy);

A dwy waith, ond ni chwanegaf.

6Yna yr attebodd Iehofah i Iöb allan o’r corwŷnt, a dywedodd,

7Gwregysa, yn awr, dy lwynau fel gwr;

Gofynaf i ti, a gwna dithau i Mi wybod.

8A ddiddymmi di Fy iawn farn?

A wnei di Fi yn anghyfiawn, fel y’th gyfiawnhâer di?

9Ai braich, megis yr eiddo Duw, sydd gennyt ti,

Ac â’r llais, megis Efe, y tarani di?

10Ymaddurna, yn awr, â mawredd ac a dyrchafedigrwydd,

Ac âg ardderchowgrwydd a gogoniant ymwisg di;

11Gwasgara lifeiriant dy ddigofaint,

Ac edrych ar bob balch, ac isela ef;

12Edrych ar bob balch, a gostwng ef,

A mathra ’r annuwiolion yn eu safle;

13Cuddia hwynt yn y pridd,

Rhwym eu gwynebau hwynt mewn tywyllwch;

14Yna, hyd yn oed Myfi a’th foliannaf,

O herwydd y gweryd dy ddeheulaw di.

15Wele, yn awr, yr afonfarch, yr hwn a grëais cystal â thydi;

Glaswellt a fwytty efe, fel ŷch;

16Wele, yn awr, ei gryfdwr yn ei lwynau,

A’i nerth yng ngïau ei fòl;

17Fe dry efe ei gynffon fel (ped fai yn) gedrwŷdden,

Gewynau ei forddwydydd ŷnt ymblethedig;

18Ei esgyrn ef yn bibellau pres,

Ei esgyrn (ŷnt) fel bàr o haiarn;

19Efe (sydd) bennaf o ffyrdd Duw,

Ei Wneuthurwr a ddug iddo ei gleddyf,

20Canys ymborth y mae ’r mynyddoedd yn ei ddwyn iddo,

A (’r lle) y mae holl anifeiliaid y maes yn chwareu ynddo;

21Tan y lotus y gorwedd efe Mewn lloches o gyrs a siglennydd;

22Ei orchuddio ef y mae ’r lotus â’u cysgod,

Ei amgylchu y mae helyg yr afon;

23Os treisio a wna ’r ffrwd, nid ofna efe,

Hyderus y byddai, ped ymruthrai ’r Iorddonen i’w enau ef:

24 O flaen ei lygaid ef, a ddeil neb ef?

Yn y maglau, a gaiff dyn dyllu ei drwyn ef?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help