Psalmau 63 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

LXIII.

1Psalm o eiddo Dafydd, pan oedd efe yn niffaethwch Iwdah.

2O Dduw, fy Nuw Tydi (ydwyt), ceisiaf Di,

Sychedu am Danat y mae fy enaid,

Nychu am Danat y mae fy nghorph

Mewn tir cras, ac yn llesmeirio heb ddwfr:

3 Felly yn Dy gyssegr y golygwn Di;

Gan weled Dy gadernid a’th ogoniant,

4Canys gwell Dy radlondeb Di nâ bywyd;

Fy ngwefusau a’th foliannant:

5Felly y’th fendithiaf trwy fy mywyd,

Yn Dy enw Di y dyrchafaf fy nwylaw.

6Megis â brasder ac ireiddra y gorddigonir fy enaid,

Ac â gwefusau yn llawen-ganu y clodfora fy ngenau,

7Pan y’th gofiwyf ar fy ngwasarn,

Ac yngwyliadwriaethau’r nos y myfyriwyf Arnat,

8Canys buost gynhorthwy i mi,

Ac ynghysgod Dy adennydd y llawen-ganaf:

9Glynodd fy enaid wrthyt Ti,

A’m cynnal a wnaeth Dy ddeheulaw;

10Ond y rhai yna,—i ddistryw y ceisiant fy enaid:—

Aent hwy i waelodion y ddaear,

11Traddoded (dynion) hwynt i law y cleddyf,

Rhan gweision y llew y byddont hwy!

12Ond bydded i’r Brenhin lawenychu yn Nuw!

Ymorfoledded pob un a dyngo wrtho Ef,

Canys cauir genau adroddwyr celwydd!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help