1Ir blaengeiniad. I feibion Corah. Psalm.
2Clywch hyn, yr holl bobloedd,
Clust-ymwrandêwch, holl drigolion y byd,
3Yn gystal meibion dynion, a meibion gwŷr,
Cyfoethog a thlawd ynghŷd:
4Fy ngenau a draethant ddoethineb,
A myfyrdod fy nghalon (fydd) ddeall,
5At ddïareb y gogwyddaf fy nghlust,
Gyda ’r delyn y dechreuaf fy nammeg.
6Pa ham yr ofnwn yn nyddiau adfyd,
(Pan) fo drygioni fy nisodlwyr yn f’amgylchynu,
7Y rhai sy’n ymhyderu ar eu cyfoeth,
Ac yn amlder eu golud a ymffrostiant?
8Yn ddïau, gan adbrynu nid adbryna neb (ef ei hun),
Ni chaiff roi i Dduw iawn drosto ei hun,
9—Canys rhy werthfawr (yw) adbryniad eu henaid,
Ac a beidia yn dragywydd—
10Fel y bo byw etto am byth,
(Ac) na welo ’r pydew;
11Ond ei weled a gaiff efe; y doethion fydd marw,
Ynghŷd, yr ynfyd a’r anifeilaidd a drengant,
Ac a adawant i ereill eu cyfoeth,
12Eu bedd (yw) eu tai tragywyddol,
Eu trigfëydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth;
Ar eu henwau eu hunain y galwant eu tiroedd,
13Ond dyn, mewn anrhydedd nid erys,
Tebyg yw i’r anifeiliaid a leddir.
14Hon (yw) eu ffordd hwynt; ynfydrwydd (sydd) ganddynt,
A’r rhai ar eu hol a ymhyfrydant yn eu hymadrodd: Selah.
15Fel diadell, i annwn y traddoda (dynion) hwynt,
Angau a’u portha,
A sathru arnynt a wna ’r cyfiawn rai,
Yn fuan eu tegwch a dderfydd, annwn (yw) eu trigfa;
16Eithr Duw a adbryna fy enaid i o law annwn,
Canys cymmer Efe fi. Selah.
17 dydi am it’ gymmeryd byd da i ti dy hun—
20Aiff efe at genhedlaeth ei dadau ef,
Byth ni chânt weled y goleuni!
21Dyn mewn anrhydedd ac heb ddeall,
Tebyg yw i’r anifeiliaid a leddir.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.