1Os â thafodau dynion y llefaraf, ac â’r eiddo’r angylion, ond cariad heb fod genyf, aethum yn efydd yn seinio, neu’n sumbal yn tincian.
2Ac os bydd genyf brophwydoliaeth, a gwybod o honof y dirgeledigaethau oll a phob gwybodaeth, ac os bydd genyf yr holl ffydd hyd i fynyddoedd eu symud genyf, ond cariad heb fod genyf, diddym wyf.
3Ac os i borthi tlodion y rhoddaf fy holl feddiannau, ac os traddodaf fy nghorph fel y’m llosger, ond cariad heb fod genyf, nid oes dim lleshad i mi.
4Cariad sy’n hir-ymaros, sy’n gymmwynasgar; cariad ni chenfigenna; cariad nid ymffrostia;
5nid ymchwydda; nid yn anweddaidd y gwnaiff; ni chais ei bethau ei hun; nid ennynir; ni chyfrif yr hyn sy ddrwg;
6ni lawenycha mewn anghyfiawnder, ond cyd-lawenycha â gwirionedd;
7â phob peth y cyd-ddwg; pob peth a gred efe; pob peth a obeithia efe; pob peth a ddioddefa efe.
8Cariad ni syrth byth; ond pa un bynnag ai prophwydoliaethau sydd, diddymir hwynt; neu dafodau, peidiant; neu wybodaeth, diddymir hi;
9canys o ran y gwyddom, ac o ran y prophwydwn;
10ond pan ddelo’r perffaith, yr hyn sydd o ran a ddiddymir.
11Pan oeddwn blentyn, llefarwn fel plentyn, deallwn fel plentyn, meddyliwn fel plentyn; pan ddaethum yn ddyn, diddymais bethau plentyn.
12Canys gweled yr ydym yn awr trwy ddrych, mewn dammeg; ond yna wyneb yn wyneb; yn awr yr adwaen o ran, ond yna yr adnabyddaf fel y’m hadwaenir.
13Ac yn awr aros y mae ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn; a’r mwyaf o’r rhai hyn yw cariad.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.