1Y meistriaid, yr hyn sydd gyfiawn a chyfartalwch rhoddwch i’ch gweision, gan wybod fod genych chwithau hefyd Feistr yn y nef.
2Parhewch mewn gweddi, gan wylied ynddi gyda thalu diolch,
3gan weddïo hefyd drosom ni, ar i Dduw agor i ni ddrws i’r Gair, i lefaru dirgelwch Crist,
4o achos yr hwn y’m rhwymwyd hefyd, fel yr amlygwyf ef fel y dylwn lefaru.
5Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai oddiallan, gan brynu’r amser.
6Bydded eich ymadrodd bob amser mewn gras, wedi ei dymheru â halen, fel y gwypoch pa fodd y dylech atteb i bob dyn.
7Fy holl helynt i a hyspysa Tuchicus i chwi, y brawd anwyl a’r gweinidog ffyddlawn a chyd-was yn yr Arglwydd;
8yr hwn a ddanfonais attoch er mwyn y peth hwn ei hun, fel y gwypoch ein helynt, ac y diddano eich calonnau,
9ynghydag Onesimus y brawd ffyddlawn ac anwyl, yr hwn sydd o honoch. Yr oll a hyspysant i chwi, o ran y pethau sydd yma.
10Eich annerch y mae Aristarchus fy nghyd-garcharor, a Marcus cefnder Barnabas (am yr hwn y derbyniasoch orchymynion;
11os daw attoch, derbyniwch ef,) ac Ieshua, yr hwn a elwir Iwstus, y rhai ydynt o’r amdorriad. Y rhai hyn yn unig yw fy nghyd-weithwyr i deyrnas Dduw, y rhai a fuant yn gysur i mi.
12Eich annerch y mae Epaphras, yr hwn sydd o honoch, gwas i Iesu Grist, bob amser yn ymdrechu trosoch yn ei weddïau, ar sefyll o honoch yn berffaith, ac wedi eich llawn-berswadio yn holl ewyllys Duw;
13canys tystiolaethaf iddo fod ganddo lafur lawer trosoch chwi a’r rhai yn Laodicea a’r rhai yn Hierapolis.
14Eich annerch y mae Luc, y meddyg anwyl, a Demas.
15Annerchwch y brodyr sydd yn Laodicea, a Numphas, a’r eglwys sydd yn eu tŷ.
16Ac wedi darllen yr epistol hwn gyda chwi, perwch ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid, a darllen o honoch chwithau hefyd hwnw o Laodicea;
17a dywedwch wrth Archippus, Edrych at y weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd, ar ei chyflawni o honot.
18Yr annerch â’m llaw i Paul fy hun. Cofiwch fy rhwymau. Gras fyddo gyda chwi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.