1I’r blaengeiniad. (Ar don y gân) “Na ddistrywia.” Ysgrifen o eiddo Dafydd, pan yrrodd Shäwl, ac y gwyliasant hwy y tŷ, i’w ladd ef.
2Gwared fi oddi wrth fy ngelynion, O Dduw,
Rhag y rhai a ymgyfodant i’m herbyn amddiffyn fi;
3Gwared fi oddi wrth weithredwyr anwiredd,
A rhag dynion gwaedlyd achub fi!
4Canys wele, cynllwynasant yn erbyn fy enaid,
Ymgasglu yn fy erbyn a wnaeth y cedyrn,
Heb na chamwedd na phechod o ’m heiddo i, O Iehofah!
5Heb anwiredd ynof fi y rhedant ac ymorsafant:
—Deffro i gyfarfod â mi, a gwel!—
6Ond Tydi O Iehofah, Duw’r lluoedd, Duw Israel,
Dihuna i ymweled â’r holl genhedloedd,
Na bydd radlawn wrth yr holl fradwyr drygionus!
7Dychwelant yn yr hwyr,
Udant fel ci,
Ac amgylchynant y ddinas;
8Wele, bwrlymant â’u genau,
Cleddyf (sydd) yn eu gwefusau,
Canys (meddant), “Pwy a glyw?”
9Ond Tydi, O Iehofah, a chwerddi am eu pennau hwynt,
Gwatwori yr holl genhedloedd!
10O fy Nghadernid, wrthyt Ti y disgwyliaf,
Canys Duw (yw) fy uchelfa,
11Fy Nuw trugarog a’m rhagflaena,
Duw a wna i mi syllu ar fy ngelynion;
12Na ladd hwynt, rhag anghofio o’m pobl,
Gwna iddynt hongcio trwy Dy nerth, a dwg hwynt i lawr,
O ein tarian, O Arglwydd!
13Pechod eu genau, ymadrodd eu gwefusau,—
A dalier hwynt yn eu balchder,
Ac o herwydd y felldith, ac o herwydd y celwydd a draethant!
14Difa mewn llid, difa fel na (byddont),
Fel y gwypo dynion, mai Duw sy’n llywodraethu yn Iacob,
Hyd eithafoedd y ddaear! Selah.
15A dychwelant yn yr hwyr,
Udant fel ci,
Ac amgylchynant y ddinas.
16Hwynt-hwy a grwydrant am fwyd,
Onis gorddigonir hwynt arhosant trwy’r nos;
17Eithr myfi a ganaf Dy gadernid,
Llawenganaf bob bore am Dy drugaredd,
Canys buost yn uchelfa i mi,
Ac yn noddfa yn y dydd (y bu) cyfyngder arnaf;
18Fy Nghadernid, i Ti y tarawaf y tannau,
Canys Duw (yw) fy uchelfa, fy Nuw trugarog!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.