1Hefyd y rhai hyn (sydd) ddiarhebion Shalomo, y rhai a gasglodd gwŷr Hezeciah, brenhin Iwdah.
2Anrhydedd Duw (yw) celu peth,
Ond anrhydedd brenhinoedd (yw) chwilio peth allan.
3Y nefoedd am uchder, y ddaear am ddyfnder,
A chalon brenhinoedd nid oes ei chwilio allan.
4Symmud ymaith sothach oddiwrth yr arian,
A daw allan i’r gôf-arian lestr;
5Symmud ymaith annuwiolyn o wydd brenhin,
A sicrhêir ei orseddfaingc trwy gyfiawnder.
6Nac ymfalchïa ger bron brenhin,
Ac yn lle ’r mawrion na saf;
7Canys gwell dywedyd wrthyt, “Tyred i fynu yma,”
Na chael dy iselu ger bron tywysog
Yr hwn a welodd dy lygaid.
8Na ddos allan i ymddadleu, ar frys,
Rhag—pa beth a wnei yn niwedd hyny,
Pan y’th waradwydda dy gydymddadleuwr.
9Dy ddadl dadl gyda ’th gydymddadleuwr,
Ond cyfrinach neb arall na ddatguddia;
10Rhag i’r neb a glywo, dy waradwyddo,
Ac i’th ddrygair beidio â throi ymaith.
11Afalau aur ymysg lluniau arian
(Yw) gair a leferir yn gyflym.
12Clustdlws aur, a gem werthfawr,
(Yw) argyhoeddwr doeth, i’r glust a wrandawo.
13Fel oeriad âg eira yn amser cynhauaf
(Yw) cennad ffyddlon, i’w ddanfonwr;
Ac enaid ei arglwydd a ddadebra efe.
14Cymmylau a gwynt,—ond heb wlaw,
(Yw)’r dyn a ymfolianno mewn rhoddion twyllodrus.
15Trwy hir-ymaros y perswadir tywysog,
A thafod tyner a dyr asgwrn.
16I fêl y cefaist hyd,—bwytta i’th ddigonedd,
Fel na’th orlawner o hono, a’i chwydu;
17Anfynych dod dy droed yn nhŷ dy gymmydog,
Rhag y gorddigonir ef o honot, a’th gashau.
18Clwpa, a chleddyf, a saeth lem
(Yw)’r gwr a ettyb yn erbyn ei gymmydog, yn dyst gau.
19Dant yn torri, a throed yn honciaw
(Yw) hyder ar y bradychus, yn nydd cyfyngder.
20A ddïosgo wisg yn amser oerfel
(Sydd) finegr ar archoll,
A chanwr caniadau i galon salw.
21Os newyna dy elyn, bwyda ef â bara,
Ac os sycheda, dïotta ef â dwfr;
22Canys marwor tydi a bentyrri ar ei ben ef,
Ac Iehofah a dâl i ti.
23Gwynt y gogledd a bair wlaw,
A gwyneb digllon (a bair) tafod dirgel.
24 Dyfroedd oerion i enaid lluddedig,
A newyddion da o wlad bell.
26Ffynnon wedi ei chythryblu a tharddell lygredig
(Yw)’r cyfiawn yn honciaw ger bron yr annuwiol.
27Bwytta mel lawer, nid da (yw),
A chwilio eu hanrhydedd (sydd) drwm.
28Dinas fylchedig, heb gaer,
(Yw) ’r gwr nad oes ganddo attal ar ei yspryd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.