Iöb 11 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XI.

1Yna yr attebodd Tsophar y Naamathiad, a dywedodd,

2Yr hwn a amlhäo eiriau, onid attebir iddo?

Ac ai dyn siaradus sydd gyfiawn?

3Dy fawrair a wnelai i wŷr dewi,

A gwatwar yr wyt ac nid (oes) a’th gywilyddio,

4A dywedaist, “Pur (yw) fy nysgeidiaeth,

A glân ydwyf yn Dy olwg Di.”

5Ond, O na fyddai i Dduw lefaru,

Ac agoryd Ei wefusau yn dy erbyn,

6Ac hyspysu i ti ddirgeledigaethau Doethineb!

Canys dau gymmaint (ein) dealltwriaeth (ni ydynt):

Gwybydd gan hyny, faddeu o Dduw i ti (lawer) o’th anwiredd.

7Ai hyd i ymchwiliad Duw y deui di?

Ai hyd i berffeithrwydd yr Hollalluog y cenfyddi di?

8 Uchelderau ’r nefoedd! beth a wnei di?

Dwfn rhagor uffern; beth a wybyddi di?

9Estynedig rhagor y ddaear o ran mesur!

Ac ehelaeth rhagor y môr!

10Pan ymosodo Efe, a charcharu,

A chynnull (i farn), pwy a’i rhwystra?

11 Canys Efe a edwyn y dynion drygionus,

Ac a wêl anwiredd, ac yntau heb ei ganfod;

12Ond dyn delffaidd sydd ddisynwyr,

Ac (fel) llwdn asyn gwŷllt y genir daearolyn.

13Os tydi a unioni dy galon,

Ac a ledi atto Ef dy ddwylaw:

14Od (oes) drygioni yn dy law, pellhâ ef,

Ac na thriged anwiredd yn dy babell;

15Yna, yn ddïau, y cei godi dy wyneb heb frycheuyn,

Ac y byddi (fel drych) toddedig, ac ni chei ofni;

16Canys, yna, dy drallod a ollyngi dros gof,

Fel dyfroedd a aeth heibio y cofi (ef);

17A (disgleiriach) na hanner dydd y cwyd (dy) hoedl;

Tywylliad a fydd fel y bore;

18Ac hyderus y byddi o herwydd bod gobaith;

Os gwrido a fydd i ti, mewn hyder y cei fyned i ymorphwys;

19A thi a orweddi ac ni (bydd) a ’(th) ddychryno,

Ac â’th wyneb yr ymbilia llaweroedd.

20Ond llygaid yr annuwiolion a ddiffygiant,

A noddfa a ddistrywiwyd iddynt,

A’u gobaith (yw) anadlu allan yr enaid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help