1Molwch Iah,
Canys da (yw) taraw’r tannau i’n Duw ni,—
Canys hyfryd (yw),—gweddus yw mawl!
2Adeiladydd Ierwshalem (yw) Iehofah,
Gwasgaredigion Israel a gasgl Efe,
3Yr Hwn sy’n iachâu y rhai briwedig o galon,
Ac yn rhwymo eu poenau!
4Gan rannu allan bennodoldeb i’r ser,
Iddynt oll enwau a roddes Efe!
5Mawr (yw) ein Harglwydd ac ehelaeth o nerth,
I’w ddeall Ef nid oes pennodoldeb!
6Cadarnhâwr y trueiniaid (yw) Iehofah,
Gostyngwr yr annuwiolion hyd lawr!
7Cenwch i Iehofah â diolch,
Tarewch y tannau i’n Duw, ar y delyn,
8Yr Hwn sy’n toi’r nefoedd â chymmylau,
Yr Hwn sy’n parottoi i’r ddaear wlaw,
Yr Hwn sy’n peri i’r mynyddoedd fwrw allan laswellt;
9Gan roddi i’r anifail ei borthiant,
Ac i gywion y gigfran yr hyn a alwant am dano!
10Nid yn nerth march yr ymhyfryda Efe,
Nid yn esgeiriau gwr yr ymhoffa;
11Ymhoffi (y mae) Iehofah yn y rhai a’i hofnont Ef,
Y rhai a ddisgwyliont wrth Ei drugaredd!
12Clodfora Iehofah, O Ierwshalem,
Molianna dy Dduw, O Tsïon,
13O herwydd cadarnhau o Hono farrau dy byrth,
(A) bendithio o Hono dy blant o’th fewn:
14Yr Hwn sy’n gwneuthur dy fro yn heddychol,
Ac â brasder gwenith y’th orddigona;
15Yr Hwn sy’n danfon Ei air ar y ddaear,
—Yn dra buan y rhed Ei orchymyn; —
16Yr Hwn sy’n rhoddi eira fel gwlan,
Llwydrew, fel lludw, a daena Efe;
17Yr Hwn sy’n bwrw Ei ia fel tammeidiau,
—O flaen Ei oerni Ef pwy a saif?—
18Denfyn Efe Ei air,—ac a’u tawdd hwynt,
Pair i’w wŷnt chwythu,—llifa dyfroedd!
19Yr Hwn a fynegodd Ei air i Iacob,
Ei ddeddfau a’i farnedigaethau i Israel!
20Ni wnaeth Efe felly ag un genedl,
A’(i) farnedigaethau nid adwaenant!
Molwch Iah!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.