Iöb 19 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XIX.

1Yna yr attebodd Iöb, a dywedodd,

2 Pa hŷd y cystuddiwch chwi fy enaid,

Ac y’m drylliwch ag ymadroddion?

3 Y ddengwaith hyn y’m gwaradwyddasoch,

Ac nid oedd cywilydd gennych o’m syfrdanu.

4Os, mewn gwirionedd, y bu i mi gyfeiliorni,

Gyda myfi yr erys fy nghyfeiliornad.

5Os mewn gwirionedd yn fy erbyn y gwnewch ymfawrygu,

Ac argyhoeddi fy ngwaradwydd i’m herbyn;

6Gwybyddwch, yn awr, mai Duw a’m crymmodd,

Ac a roddes Ei rwyd o’m hamgylch;

7Wele, yr wyf fi yn gwaeddi (o achos) gormes, ond nid erglywir arnaf,

Llefain (am gymmorth) yr wyf, ond nid (oes) farn;

8Fy ffordd a argaeodd Efe fel nad elwyf drosodd,

Ac ar fy llwybrau tywyllwch a roddes Efe;

9Fy ngogoniant a ddïosgodd Efe oddi am danaf,

cydnabuont a lwyr ymddieithriasant oddi wrthyf;

14Fy nghyfneseifiaid a ballasant,

A’r rhai a gydnabuwyd gennyf a’m hanghofiasant;

15 Preswylwŷr fy nhŷ a’m morwynion sy’n fy nghyfrif yn ddïeithr,

Estron wyf yn eu golwg hwynt;

16Ar fy ngwas y galwaf, ond nid ettyb efe,

Â’m genau ymbilio yr wyf âg ef;

17 Fy anadl (sydd) ffieidd-dra i’m gwraig,

A drewllyd wyf i feibion fy nghorph;

18Plant hefyd a’m dirmygant,

Pan gyfodwyf hwy a lefarant i’m herbyn;

19Fy ffieiddio y mae fy holl gyfrinachwŷr,

A’r rhai a gerais a dröwyd yn fy erbyn;

20Wrth fy nghroen ac wrth fy nghnawd y glyn fy esgyrn,

A dïengais â chroen fy nannedd.

21Trugarhêwch wrthyf!

Trugarhêwch wrthyf, chwychwi fy nghyfeillion,

Canys llaw Duw a’m tarawodd!

22Pa ham yr erlidiwch chwi fi fel (y mae) Duw,

Ac â’m cnawd ni’ch gorddigonir chwi?

23 O, ynte, nad ysgrifenid fy ngeiriau!

O nad mewn llyfr y darlunid hwy!

24O nad â phin haiarn ac â phlwm,

Dros byth, yn y graig yr ysgythrid hwy!

25 myfi a wn fod fy Ngwaredwr yn fyw,

Ac y diweddaf ar y ddaear y saif Efe;

26 Ac ar ol fy nghroen, (a) difetha (o’r peth) hwn,

O’m cnawd y câf edrych ar Dduw,

27Yr Hwn, myfi a gâf edrych arno ar fy ochr,

A’m llygaid a’i gwelant Ef ac nid yn arall;

— Marw y mae f’ arennau yn fy mynwes!

28Dywedwch, ynte, “Pa ham yr erlidiwn ni ef,

A gwreiddyn y ddadl i’w gael ynddo?”

29Ofnwch am danoch rhag wyneb y cleddyf,

— Canys angerdd (yw) cospedigaethau ’r cleddyf, —

Er mwyn i chwi ystyried (fod) barn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help