1Wele (hyn) oll fy llygad a welodd,
Fy nghlust a glywodd ac a’i nododd iddi ei hun;
2Yn ol eich gwybodaeth chwi yr wyf fi yn gwybod,
Nid cael codwm (yr wyf) fi gennych chwi.
3 Ond wrth yr Hollalluog myfi a lefarwn,
Ac ymresymmu ger bron Duw y chwennychwn:
4Eithr chwychwi (ydych) wniedyddion celwydd,
Pwythyddion gwagedd (ydych) chwi oll.
5O gan dewi na thawech!
A byddai hynny i chwi yn ddoethineb.
6Gwrandêwch, attolwg, fy argyhoeddiad,
A sylwch ar ddadl fy ngwefusau:
7 Ai tros Dduw y llefarech anghyfiawnder,
A throsto Ef y llefarech dwyll?
8Ai Ei wyneb Ef y mynnech chwi ei dderbyn?
Ai yn bleidgar i Dduw yr ymresymmech?
9Ai da hyn pan chwilio Efe chwi?
Ai fel twyllo adyn y twyllwch chwi Ef?
10Gan argyhoeddi Efe a’ch argyhoedda,
Os yn y dirgel y derbyniwch wyneb;
11 Oni chaiff Ei ardderchowgrwydd Ef eich dychrynu chwi,
A’i arswyd Ef syrthio arnoch?
12 Eich pethau cofiedig (ŷnt) ymadroddion lludw,
Gwalciau clai eich gwalciau chwi:
13Distêwch, (peidiwch) â mi, a myfi a lefaraf,
A deued arnaf yr hyn (a ddèlo);
14 Ar yr hyn (a ddèlo) gosodaf fy nghnawd yn fy nannedd,
A’m heinioes a ddodaf ar fy llaw.
15Wele, Efe a’m lladd i! (Hyn) nid wyf yn ei ddisgwyl,
Ond fy ffyrdd a hyspysaf ger Ei fron Ef:
16Hefyd hyn fydd i mi yn iachawdwriaeth,
(Sef) ger Ei fron Ef nad yw yr annuwiol yn dyfod.
17Gwrandêwch gan wrando fy ymadrodd,
A (bydded) fy mynegiad yn eich clustiau.
18Wele, attolwg, trefnais fy achos,
Gwn mai myfi a gyfiawnhêir:
19Pwy (yw) efe a ymaddadleu â mi?
Canys (yna) mi a daŵn ac a drengwn.
20 galw Di, a myfi a attebaf,
Neu myfi a lefaraf ac atteb Di fi:
23Pa faint (sydd) ynof o anwiredd a phechodau?
Fy nghamwedd a’m pechod hyspysa Di i mi:
24Pa ham y cuddi Di Dy wyneb,
Ac y’m hystyri yn elyn i Ti,
25— Deilen ymlidiedig yr wyt yn ei brawychu,
A soflyn sych yr wyt yn ei erlid —
26 Am i Ti ysgrifenu i’m herbyn chwerwderau,
A dwyn arnaf etifeddiaeth camweddau fy ieuengctid,
27 A gosod o Honot fy nhraed yn y cyffion,
A charcharu fy holl lwybrau,
(A) chloddio o amgylch gwadnau fy nhraed?
28A’r (peth) ei hun! fel pydrni, dihoeni a wna efe,
Fel dilledyn â gwyfyn yn ei fwytta,
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.