Yr Actau 5 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A rhyw ddyn, Chananiah wrth ei enw, ynghyda Shappira ei wraig,

2a werthodd berchenogaeth, ac a ddodes heibio beth o’r gwerth, gyda gwybodaeth o ran ei wraig,

3ac wedi dyfod â rhyw faint, wrth draed yr apostolion y’i dodes. A dywedodd Petr, Chananiah, Paham y llanwodd Satan dy galon i gelwyddu o honot wrth yr Yspryd Glân,

4ac i ddodi heibio o werth y tir? Onid, tra yr arhosai, i ti yr arhosai; ac wedi ei werthu, yn dy feddiant di yr ydoedd? Paham y gosodaist y weithred hon yn dy galon?

5Ni chelwyddaist i ddynion, eithr i Dduw. Ac wedi clywed o Chananiah y geiriau hyn, syrthiodd a threngodd; a daeth ofn mawr ar bawb a’u clywsant.

6Ac wedi cyfodi o’r gwŷr ieuaingc, cyd-rwymasant ef; ac wedi ei ddwyn ef allan, claddasant ef.

7A bu yspaid oddeutu tair awr, ac ei wraig, heb wybod yr hyn a ddigwyddasai,

8a ddaeth i mewn: ac wrthi yr attebodd Petr, Dywaid wrthyf ai er cymmaint y gwerthasoch y tir?

9A hi a ddywedodd, Ië, er cymmaint. A Petr a ddywedodd wrthi, Paham y cyttunwyd genych i demtio Yspryd yr Arglwydd? Wele, traed y rhai a gladdasant dy ŵr, wrth y drws y maent, a dygant allan dithau.

10A syrthiodd hi yn uniawn wrth ei draed, a threngodd: ac wedi dyfod i mewn y gwŷr ieuaingc a’i cawsant hi yn farw; ac wedi ei dwyn allan, claddasant hi yn ymyl ei gŵr.

11A daeth ofn mawr ar yr holl eglwys ac ar bawb a glybu y pethau hyn.

12A thrwy ddwylaw yr apostolion y gwnaed arwyddion a rhyfeddodau ym mhlith y bobl, ïe, llawer; ac yr oeddynt, o un fryd, i gyd yn nghyntor Shalomon.

13Ond o’r lleill nid oedd neb a feiddiai ymlynu wrthynt; eithr eu mawrhau hwynt a wnaeth y bobl,

14ac i radd mwy yr ychwanegwyd attynt rai yn credu yn yr Arglwydd, lliosydd yn gystal o ddynion ac o wragedd,

15hyd onid i’r llydanfeydd y dygent allan y cleifion ac y’u gosodent ar welyau a gorweddfëydd, fel wrth ddyfod o Petr y byddai, beth bynnag, i’w gysgod gysgodi ar ryw un o honynt.

16A daeth ynghyd hefyd y lliaws o’r dinasoedd o amgylch Ierwshalem, yn dwyn cleifion a rhai a drallodid gan ysprydion aflan, y rhai a iachawyd oll.

17Ac wedi cyfodi o’r archoffeiriad a’r holl rai oedd gydag ef (yr hon yw sect y Tsadwceaid), llanwyd hwy o genfigen,

18a dodasant eu dwylaw ar yr apostolion, a rhoisant hwynt mewn cadwraeth gyffredin:

19ac angel yr Arglwydd liw nos a agorodd ddrysau’r carchar, ac wedi eu dwyn hwynt allan,

20dywedodd, Ewch, a sefwch a lleferwch yn y deml wrth y bobl holl eiriau’r Bywyd hwn.

21Ac wedi clywed hyn, aethant i mewn, tua’r wawr, i’r deml, ac yr oeddynt yn dysgu. Ac wedi dyfod o’r archoffeiriad a’r rhai oedd gydag ef, galwasant ynghyd y Cynghor a holl senedd meibion Israel, a danfonasant i’r carchardy i’w dwyn hwynt ger bron.

22A’r gweinidogion wedi dyfod, ni chawsant hwynt yn y carchar;

23ac wedi dychwelyd, mynegasant, gan ddywedyd, Y carchar a gawsom wedi ei gau gyda phob sicrwydd, a’r ceidwaid yn sefyll wrth y drysau; ond wedi agor ni chawsom neb i mewn.

24A phan glywsant y geiriau hyn, cadben y deml a’r archoffeiriaid a ddyrysid yn eu cylch, pa beth a ddeuai o hyn.

25Ac wedi dyfod o ryw un, mynegodd iddynt, Wele, y gwŷr a ddodasoch yn y carchar, y maent yn y deml yn sefyll ac yn dysgu’r bobl.

26Yna, wedi myned ymaith o gadben y deml ynghyda’r gweinidogion, daeth â hwynt, nid gyda thrais, canys ofnent y bobl, rhag eu llabyddio.

27Ac wedi dyfod â hwynt, gosodasant hwynt yn y Cynghor;

28a gofynodd yr archoffeiriad iddynt, gan ddywedyd, A gorchymyn y gorchymynasom i chwi beidio â dysgu yn yr enw hwn: ac wele, llanwasoch Ierwshalem â’ch dysgad, a mynnech ddwyn arnom waed y dyn hwn.

29A chan atteb, Petr a’r apostolion a ddywedasant, Ufuddhau i Dduw sydd raid yn hytrach nag i ddynion.

30Duw ein tadau a gyfododd i fynu yr Iesu, yr Hwn, chwi a’i lladdasoch gan Ei grogi ar bren.

31Hwn a ddyrchafodd Duw â’i ddeheulaw, yn Dywysog ac yn Iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau.

32A nyni ydym dystion o’r pethau hyn, a’r Yspryd Glân, yr Hwn y mae Duw yn Ei roddi i’r rhai sy’n ufuddhau Iddo.

33A hwy, wedi clywed hyn, a dorrid i’r byw, a mynnent eu lladd hwynt.

34Ac wedi cyfodi o ryw un yn y Cynghor, Pharishead a’i enw Gamaliel, dysgawdwr y Gyfraith, parchedig gan yr holl bobl, archodd osod y dynion allan am ychydig,

35a dywedodd wrthynt, Gwŷr Israel, cymmerwch ofal ym matter y dynion hyn, pa beth yr ydych ar fedr ei wneuthur:

36canys o flaen y dyddiau hyn cyfododd Theudas, gan ddywedyd ei fod efe yn rhyw un, â’r hwn yr ymgysylltodd rhifedi o ddynion, ynghylch pedwar cant; ac efe a laddwyd, a’r holl rai cynnifer ag a ufuddhasant iddo, a wasgarwyd ac a wnaed yn ddiddym.

37Ar ol hwn y cyfododd Iwdas y Galilead yn nyddiau’r rhestriad, ac a dynnodd bobl ar ei ol; ac am dano ef y darfu; a’r holl rai, cynnifer ag a ufuddhasant iddo, a chwalwyd.

38Ac yr awr hon dywedaf wrthych, Sefwch draw oddiwrth y dynion hyn, a gadewch iddynt, canys os o ddynion y mae’r cynghor hwn neu’r gwaith hwn, diddymmir ef;

39ond os o Dduw y mae, nis gellwch eu diddymmu hwynt; rhag ysgatfydd eich cael yn ymladd yn erbyn Duw.

40Ac ufuddhasant iddo; ac wedi galw yr apostolion attynt, ar ol eu curo hwynt, gorchymynasant iddynt beidio â llefaru yn enw’r Iesu, a gollyngasant hwynt yn rhyddion.

41Hwy, yn wir, gan hyny, a aethant, oddi ger bron y Cynghor, yn llawenychu am eu cyfrif yn deilwng o’u hammerchu dros yr Enw.

42A pheunydd yn y deml a chartref ni pheidiasant â dysgu ac ag efengylu Crist Iesu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help