1Ond am y pethau am y rhai yr ysgrifenasoch; Da i ddyn beidio a chyffwrdd â gwraig.
2Ond o achos godineb bydded i bob dyn ei wraig ei hun; a bydded i bob gwraig ei gŵr ei hun.
3I’r wraig bydded i’r gŵr dalu’r ddyled; ac yr un ffunud y wraig i’r gŵr.
4Nid gan y wraig y mae’r awdurdod ar ei chorph ei hun, eithr gan y gŵr; ac yr un ffunud hefyd nid gan y gŵr y mae’r awdurdod ar ei gorph ei hun, eithr gan y wraig.
5Na ddygwch oddiar eich gilydd, oddieithr o gydsyniad, am ryw amser, fel y bo genych hamdden i weddi, ac y deuoch trachefn ynghyd rhag temtio o Satan chwi o achos eich anniweirdeb.
6A hyn yr wyf yn ei ddywedyd yn ol caniattad, nid yn ol gorchymyn;
7ond ewyllysiwn i bob dyn fod yr un modd ag i mi fy hun; eithr pob un sydd a chanddo ei ddawn ei hun oddiwrth Dduw, un fel hyn, ac arall fel hyn.
8A dywedyd yr wyf wrth y rhai heb briodi a’r gwragedd gweddwon, Da yw iddynt os arhosant fel yr wyf finnau.
9Ond os na allant ymgadw, priodont, canys gwell yw priodi na llosgi.
10Ond wrth y rhai a briodwyd gorchymyn yr wyf, nid myfi, eithr yr Arglwydd, na bo i wraig ymwahanu oddiwrth ei gŵr,
11(ond os ymwahana, arhosed heb briodi, neu cymmoder hi â’i gŵr); ac na bo i ŵr ollwng ymaith ei wraig.
12Ond wrth y lleill, dywedyd yr wyf fi, nid yr Arglwydd, Os bydd rhyw frawd a chanddo wraig ddigred, a hithau yn foddlawn i drigo gydag ef, na ollynged hi ymaith;
13a gwraig yr hon sydd a chanddi ŵr digred, ac efe yn foddlawn i drigo gyda hi, na ollynged ymaith ei gŵr;
14sancteiddir y gŵr digred trwy’r wraig, a sancteiddir y wraig ddigred trwy’r brawd; pe amgen eich plant fyddent aflan, ond yr awrhon sanctaidd ydynt.
15Ond os y digred a ymwahana, ymwahaned; nid caeth yw’r brawd, neu’r chwaer, yn y cyfryw bethau, ond mewn heddwch y galwodd Duw ni.
16Canys beth a wyddost ti, wraig, a achubi dy ŵr? Neu beth a wyddost ti, ŵr, a achubi dy wraig?
17Ond fel i bob un y rhannodd yr Arglwydd, fel y bo i bob un ei alw gan Dduw, felly rhodied;
18ac fel hyn yn yr eglwysi oll yr wyf yn ordeinio. Ai wedi ei amdorri y galwyd neb? Nac aed yn ddiamdorredig. Ai mewn diamdorriad y galwyd neb? Nac amdorrer.
19Amdorriad nid yw ddim, a diamdorriad nid yw ddim; eithr cadw gorchymynion Duw.
20Pob un yn yr alwedigaeth yn yr hon y galwyd ef, yn honno arhosed.
21Ai yn gaethwas y’th alwyd? Na fydded gwaeth genyt; eithr os gelli fyned yn rhydd, mwynha hyny yn hytrach, canys yr hwn a alwyd yn yr Arglwydd, ac efe yn gaethwas, gŵr rhydd yr Arglwydd yw.
22Yr un ffunud, yr hwn a alwyd, ac efe yn ŵr rhydd, caethwas yw i Grist.
23Er gwerth y’ch prynwyd; nac ewch yn gaethweision dynion.
24Pob un yn yr hyn y galwyd ef, frodyr, yn hyny arhosed gyda Duw.
25Ond am wyryfon, gorchymyn yr Arglwydd nid oes genyf; ond barn a roddaf megis un a gafodd drugaredd gan yr Arglwydd i fod yn ffyddlawn.
26Tybied yr wyf, gan hyny, fod hyn yn dda o achos yr angen presennol, mai da i ddyn yw bod fel y mae.
27A rwymwyd di i wraig? Na chais dy ollwng yn rhydd. Ai rhydd wyt oddiwrth wraig?
28Na chais wraig. Ond os priodi hefyd, ni phechaist. Ac os prioda gwyryf, ni phechodd; ond blinder yn y cnawd a gaiff y cyfryw rai, ac myfi a’ch arbedwn chwi.
29Ond hyn a ddywedaf, frodyr, Yr amser sydd wedi ei fyrhau, fel o hyn allan y bo’r rhai sydd a chanddynt wragedd, fel pe na baent a chanddynt;
30a’r rhai sy’n gwylo fel pe na baent yn gwylo; a’r rhai sy’n llawenychu fel pe na baent yn llawenychu; a’r rhai sy’n prynu, fel pe na baent yn meddu;
31ac y rhai sy’n arferu’r byd, fel pe na baent yn ei iawn-arferu; canys myned heibio y mae dull y byd hwn.
32Ond ewyllysiaf i chwi fod heb bryder. Yr hwn sydd heb briodi sydd bryderus am bethau’r Arglwydd, pa wedd y rhynga fodd yr Arglwydd,
33ond yr hwn a wreiccaodd sydd bryderus am bethau’r byd, pa wedd y rhynga fodd ei wraig.
34Ac y mae gwahaniaeth rhwng y wraig briod a gwyryf; yr hon sydd heb briodi sydd bryderus am bethau’r Arglwydd, fel y byddo sanctaidd yn ei chorph ac yn ei hyspryd hefyd; ond yr hon sydd wedi priodi sydd bryderus am bethau’r byd, pa wedd y rhynga fodd ei gŵr.
35A hyn, er eich lles chwi eich hunain yr wyf yn ei ddywedyd; nid fel y gosodwyf fagl arnoch, eithr er mwyn yr hyn sydd weddaidd, a dyfal-lynu wrth yr Arglwydd heb ddirdynrwydd.
36Ond os yw neb yn tybied ei fod yn anweddaidd tuag at ei wyryf o ferch, os bydd hi dros flodau ei hoedran, ac os felly y mae rhaid bod, gwnaed yr hyn a ewyllysio: ni phecha; priodont.
37Ond yr hwn sy’n sefyll yn sefydlog yn ei galon, heb angenrheidrwydd arno, ac a chanddo awdurdod o ran ei ewyllys ei hun, ac a benderfynodd hyn yn ei galon ei hun, sef i gadw ei wyryf o ferch, da y gwna.
38Felly yr hwn sy’n rhoddi ei wyryf o ferch yn briod, da y gwna; ond yr hwn nad yw yn ei rhoddi yn briod, gwell y gwna.
39Y mae gwraig yn rhwym cyhyd ag y mae ei gŵr yn fyw; ond os bu farw ei gŵr, rhydd yw i briodi yr hwn a ewyllysio;
40yn unig yn yr Arglwydd: ond dedwyddach yw os felly yr erys, yn ol fy marn i; a thybiaf fy mod innau hefyd ag Yspryd Duw genyf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.