Yr Actau 16 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A daeth efe hefyd i Derbe ac i Lustra; ac wele, rhyw ddisgybl oedd yno, a’i enw Timothëus, mab i wraig o Iwddewes,

2yr hon a gredai, ond ei dad oedd Roegwr: ac iddo y tystiolaethid gan y brodyr yn Lustra ac Iconium.

3Hwn yr ewyllysiodd Paul iddo fyned allan gydag ef; ac, wedi ei gymmeryd, amdorrodd arno o achos yr Iwddewon oedd yn y lleoedd hyny, canys gwyddent, bawb o honynt, mai Groegwr oedd ei dad ef.

4Ac fel yr ymdeithient trwy’r dinasoedd, traddodasant iddynt y dedfrydau i’w cadw, y rhai a ordeiniasid gan yr apostolion a’r henuriaid y rhai oedd yn Ierwshalem.

5Yr eglwysi, gan hyny, a gadarnhawyd yn y ffydd, ac a gynnyddasant mewn rhifedi beunydd.

6A thramwyasant trwy Phrugia a gwlad Galatia, wedi eu rhwystro gan yr Yspryd Glân rhag llefaru’r Gair yn Asia;

7ac wedi dyfod cyferbyn â Musia ceisient fyned i Bithunia; ac ni oddefodd Yspryd yr Iesu iddynt.

8Ac wedi myned heibio i Musia, daethant i wared i Troas.

9A gweledigaeth, liw nos, a ymddangosodd i Paul: rhyw ŵr o Macedonia oedd yn sefyll ac yn deisyfu arno, ac yn dywedyd, Wedi dyfod trosodd i Macedonia, cymmorth ni.

10A phan welsai efe y weledigaeth, yn uniawn y ceisiasom fyned i Macedonia,

11gan gasglu alw o’r Arglwydd arnom i efengylu iddynt.

12Gan hwylio ymaith, gan hyny, o Troas, cyrchasom yn uniawn i Samothracia, a thrannoeth i Nea Polis, ac oddi yno i Philippi, yr hon yw brif-ddinas yr ardal, dinas o Macedonia, trefedigaeth Rufeinig;

13ac yr oeddym ynddi, yn aros ddyddiau rai. Ac ar y dydd Sabbath, aethom allan tu allan i’r porth i lan afon, lle y tybiem yr oedd lle gweddi,

14ac wedi eistedd o honom llefarasom wrth y gwragedd a ddaethent ynghyd. A rhyw wraig a’i henw Ludia, un yn gwerthu porphor, o ddinas Thuateira, un yn addoli Duw, a wrandawai;

15a’r Arglwydd a agorodd ei chalon i ddal ar y pethau a leferid gan Paul. A phan fedyddiwyd hi ac ei theulu, deisyfiodd arnom, gan ddywedyd, Os barnasoch fy mod yn ffyddlawn i’r Arglwydd,

16wedi dyfod i mewn i’m tŷ, arhoswch yno; a chymhellodd ni.

A digwyddodd wrth fyned o honom i’r lle gweddi, i ryw langces, yr hon oedd a chanddi yspryd dewiniaeth, gyfarfod â ni, yr hon a ddygai ennill mawr i’w meistriaid, trwy ddewinio.

17Hon, gan ganlyn Paul a ni, a waeddai, gan ddywedyd, Y dynion hyn, gweision y Duw Goruchaf ydynt, y rhai sy’n mynegi i chwi ffordd iachawdwriaeth.

18A hyn a wnelai hi lawer o ddyddiau. A Paul yn flin ganddo, a chan droi, a ddywedodd wrth yr yspryd, Gorchymynaf i ti yn enw Iesu Grist ddyfod allan o honi; ac allan y daeth efe yr awr honno.

19A chan weled o’i meistriaid yr aethai gobaith eu hennill ymaith, wedi cymmeryd gafael ar Paul a Silas, llusgasant hwynt i’r farchnadfa ger bron y llywodraethwyr;

20ac wedi eu dwyn hwynt at y swyddogion, dywedasant, Y dynion hyn sy’n cythryblu ein dinas,

21a hwy yn Iwddewon, a mynegant ddefodau, y rhai nid yw gyfreithlawn i ni eu derbyn na’u gwneuthur, gan mai Rhufeinwyr ydym.

22A chyfododd y dyrfa ynghyd yn eu herbyn hwynt, a’r swyddogion, wedi rhwygo eu cochlau, a orchymynasant eu curo hwy â gwiail.

23Ac wedi rhoddi arnynt lawer o wialennodiau, taflasant hwynt i garchar, gan orchymyn i geidwad y carchar eu cadw hwynt yn ddiogel;

24ac efe, wedi derbyn y cyfryw orchymyn, a’u bwriodd hwynt i’r lle mwyaf i mewn o’r carchar, ac eu traed a wnaeth efe yn sicr yn y cyffion.

25A thua hanner nos, Paul a Silas, yn gweddïo, a ganent hymnau i Dduw, a gwrando arnynt yr oedd y carcharorion;

26ac yn ddisymmwth daeargryn mawr a fu, fel y siglwyd seiliau’r carchardy; ac agorwyd, yn uniawn, y drysau oll, a rhwymau pawb a ddattodwyd.

27Ac wedi deffro o geidwad y carchar, a chan weled drysau’r carchar yn agored, wedi tynnu ei gleddyf, yr oedd efe ar fedr lladd ei hun, gan dybied y diengasai y carcharorion.

28A llefain â llef uchel a wnaeth Paul, gan ddywedyd, Na wna i ti dy hun ddim niwaid, canys yr oll o honom ydym yma.

29Ac wedi galw am oleu, neidiodd efe i mewn, a than grynu, syrthiodd i lawr ger bron Paul a Silas;

30ac wedi eu dwyn hwynt allan, dywedodd, Meistriaid, pa beth sydd raid i mi ei wneuthur fel y byddwyf gadwedig?

31A hwy a ddywedasant, Cred yn yr Arglwydd Iesu, a chadwedig fyddi, ti a’th dŷ.

32A llefarasant wrtho Air yr Arglwydd, ynghyda phawb oedd yn ei dŷ.

33Ac wedi eu cymmeryd yr awr honno o’r nos, golchodd eu briwiau; a bedyddiwyd ef a’r eiddo oll yn y man.

34Ac wedi eu dwyn hwynt i’w dŷ, gosododd fwyd ger eu bron, a gorfoleddodd ynghyda’i holl deulu, gan gredu yn Nuw.

35A’r dydd wedi dyfod danfonodd y swyddogion y rhingyllau, gan ddywedyd, Gollwng yn rhyddion y dynion hyny;

36a mynegodd ceidwad y carchar y geiriau wrth Paul, gan ddywedyd, Danfonodd y swyddogion am eich gollwng yn rhyddion: yn awr, gan hyny, wedi myned allan, ewch mewn heddwch.

37A Paul a ddywedodd wrthynt, Wedi ein curo ni yn gyhoedd, heb ein condemnio, a ninnau yn Rhufeinwyr, bwriasant ni i garchar; ac yn awr, ai yn ddirgel y bwriant ni allan? Nid felly; eithr wedi dyfod eu hunain, bydded iddynt ein dwyn ni allan.

38A mynegodd y rhingyllau wrth y swyddogion y geiriau hyn;

39ac ofnasant hwy, pan glywsant mai Rhufeinwyr oeddynt; ac wedi dyfod, deisyfiasant arnynt; ac wedi eu dwyn allan, gofynasant iddynt fyned ymaith o’r ddinas.

40Ac wedi myned allan o’r carchar, aethant i mewn at Ludia; ac wedi gweled y brodyr, cysurasant hwynt, ac aethant allan.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help