Psalmau 2 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

II.

1Paham y terfysga cenhedloedd,

Ac y gwna pobloedd fyfyrio gwegi,

2Yr ymorsaf brenhinoedd y ddaear,

Ac y gwna tywysogion ymgynghori ynghyd,

Yn erbyn Iehofah ac yn erbyn Ei enneiniog, (gan ddywedyd)

3“Drylliwn eu rhwymau hwy,

A thaflwn oddi wrthym eu cenglau?”

4Y Gorseddawg yn y nefoedd a chwardd,

A ’r Arglwydd a ’u gwatwar hwynt;

5Yna y llefara Efe wrthynt yn Ei lid,

Ac yn Ei ddigllonrwydd y dychryna Efe hwynt, (gan ddywedyd)

6“A Myfi a enneiniais Fy mrenhin

Ar Tsïon, mynydd Fy sancteiddrwydd.”

7Mynegaf yr ordinhâd:

Iehofah a ddywedodd wrthyf, “Fy mab tydi (ydwyt,)

Myfi heddyw a ’th genhedlais;

8Gofyn i Mi, a rhoddaf genhedloedd yn etifeddiaeth i ti,

Ac, yn feddiant i ti, gyrrau ’r ddaear;

9Ti a ’u drylli hwynt â ffon haiarn,

Fel llestr crochennydd y chwilfriwi hwynt.”

10Yn awr gan hynny, frenhinoedd, byddwch synhwyrol,

Ymddysgwch, farnwyr y ddaear;

11Gwasanaethwch Iehofah mewn ofn,

Ac ymysgydwch mewn cryndod;

12Cusenwch y mab rhag ffyrnigo o hono Ef,

Ac y ’ch difether yn ddisymmwth!

Pan gynneuo Ei lid Ef, ond ychydig,

Dedwydd pawb a ymddiriedont Ynddo!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help