Yr Actau 11 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A chlywodd yr apostolion a’r brodyr oedd yn Iwdea, y bu i’r cenhedloedd hefyd dderbyn Gair Duw.

2A phan esgynodd Petr i Ierwshalem, ymrysonodd y rhai o’r amdorriad yn ei erbyn ef,

3gan ddywedyd, At wŷr diamdorredig yr aethost i mewn, a bwytteaist gyda hwynt.

4A dechreuodd Petr ac adroddodd y peth iddynt mewn trefn,

5gan ddywedyd, Myfi oeddwn yn ninas Ioppa, yn gweddïo; a gwelais, mewn llewyg, weledigaeth, ddisgyn o ryw lestr, fel llen-lliain fawr, wedi ei gollwng i lawr, erbyn ei phedair congl, o’r nef;

6a daeth hi hyd attaf; i’r hon yn graff yr edrychais, a gwelais bedwar-carnolion y ddaear, a’r ymlusgiaid,

7ac ehediaid y nef; a chlywais lais yn dywedyd wrthyf,

8Cyfod, Petr, lladd a bwytta; a dywedais, Nid er dim, Arglwydd, canys peth cyffredin neu aflan ni ddaeth erioed i mewn i’m genau.

9Ac attebodd llais eilwaith, o’r nef, Y pethau y bu i Dduw eu glanhau, na wna di yn gyffredin.

10A hyn a ddigwyddodd dair gwaith; a thynwyd y cwbl i fynu drachefn i’r nef.

11Ac wele, yn uniawn tri wŷr a safasant wrth y tŷ yn yr hwn yr oeddwn, wedi eu danfon o Cesarea attaf.

12Ac wrthyf y dywedodd yr Yspryd i fyned gyda hwynt heb ammeu dim. Ac yr aeth gyda mi y chwe brodyr hyn hefyd; ac aethom i mewn i dŷ y gŵr;

13a mynegodd efe i ni pa fodd y gwelsai yr angel yn ei dŷ, yn sefyll ac yn dywedyd, Danfon i Ioppa,

14a gyr am Shimon a gyfenwir Petr, yr hwn a lefara ymadroddion wrthyt, trwy y rhai yr achubir di a’th holl dŷ.

15Ac wrth ddechreu o honof lefaru, syrthiodd yr Yspryd Glân arnynt,

16fel arnom ninnau yn y dechreuad: a chofiais ymadrodd yr Arglwydd, y modd y dywedodd, Ioan yn wir a fedyddiodd â dwfr, ond chwi a fedyddir â’r Yspryd Glân.

17Os, gan hyny, y gyffelyb rodd a roddodd Duw iddynt hwy ag i ninnau y rhai a gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, myfi, pwy oeddwn yn alluog i luddias Duw?

18Ac wedi clywed y pethau hyn, distawsant, a gogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Felly i’r cenhedloedd hefyd y mae Duw wedi rhoddi edifeirwch i fywyd.

19Gan hyny, ynte, y rhai a wasgaresid o herwydd y blinder a ddigwyddasai o achos Stephan, a dramwyasant hyd at Phenice a Cuprus ac Antiochia, heb lefaru y Gair wrth neb oddieithr yn unig wrth Iwddewon:

20ac yr oedd rhai o honynt yn wŷr o Cuprus ac o Curene, y rhai wedi dyfod i Antiochia, a lefarasant wrth yr Iwddewon Groegaidd hefyd, gan efengylu yr Arglwydd Iesu;

21ac yr oedd llaw yr Arglwydd gyda hwynt; a nifer mawr, y rhai a gredasant, a droisant at yr Arglwydd.

22A chlybuwyd y gair yng nghlustiau yr eglwys oedd yn Ierwshalem, am danynt; a danfonasant allan Barnabas hyd at Antiochia;

23ac efe, wedi dyfod a gweled gras Duw, a lawenychodd, a chynghorodd bawb o honynt, â llwyrfryd calon i lynu wrth yr Arglwydd,

24canys yr oedd efe yn ŵr da ac yn llawn o’r Yspryd Glân a ffydd;

25ac ychwanegwyd tyrfa fawr at yr Arglwydd. Ac aeth efe allan i Tarsus, i edrych am Shawl, ac wedi ei gael ef, daeth ag ef i Antiochia;

26a bu iddynt hefyd am flwyddyn gyfan ymgynnull yn yr eglwys a dysgu tyrfa fawr; ac yn gyntaf yn Antiochia y galwyd y disgyblion yn Gristionogion.

27Ac yn y dyddiau hyn daeth prophwydi i wared o Ierwshalem i Antiochia:

28ac wedi cyfodi o un o honynt a’i enw Agabus, arwyddoccaodd, trwy yr Yspryd, fod newyn mawr ar fedr bod dros yr holl fyd; yr hwn a ddigwyddodd dan Claudius:

29a’r disgyblion, fel yr oedd y modd gan neb, a benderfynasant, bob un o honynt, ddanfon at y weinidogaeth i’r brodyr oedd yn preswylio yn Iwdea.

30A hyn hefyd a wnaethant, gan ddanfon at yr henuriaid trwy law Barnabas a Shawl.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help