1Cân. Psalm, i Asaph.
2O Dduw na (fydded) tawelwch Gennyt,
Na thaw, ac na fydd lonydd, O Dduw!
3Canys wele, Dy elynion a ruant,
A’th gaseion a ddyrchafasant (eu) pen;
4Yn erbyn dy bobl y gwnant ddichellgar fwriad,
Ac ymgynghorant yn erbyn Dy guddiedig rai,
5Dywedant “Deuwch a difethwn hwynt fel na (byddont) yn genedl,
Ac na chofier enw Israel mwyach!”
6Canys ymgynghorasant yn un galon,
Yn Dy erbyn Di cyfammod a wnaeth
7Pebyll Edom a’r Ishmaeliaid,
Moab, a’r Hagariaid,
8Gebal, ac Ammon, ac Amalec,
Pelesheth, gyda phreswylwyr Tyrus;
9Assiria hefyd a gyssylltwyd â hwynt,
Aethant yn fraich i feibion Lot! Selah.
10Gwna iddynt fel (i) Midian,
Fel (i) Sisera, fel (i) Iabin wrth afon Cishon,
11(Y rhai) a ddifethwyd yn Endor,
A aethant yn dail i’r ddaear!
12Gosod hwynt,—eu pendefigion fel Oreb, ac fel Zeeb,
Ac fel Zebah ac fel Tsalmwna (gwna) eu holl enneiniogion,
13Y rhai a ddywed’sant “Meddiannwn i ni ein hunain
Anneddau Duw!”
14O Dduw, gosod hwynt fel peiswyn treigledig,
Fel sofl o flaen y gwỳnt!
15Fel y bydd tân yn llosgi ’r coed,
Ac y bydd y fflam yn goddeithio ’r mynyddoedd,
16Felly erlid hwynt â’th dymmestl,
Ac â’th gorwỳnt dychryna hwynt!
17Llanw eu gwynebau â gwarth,
Fel y ceisiont Dy enw, O Iehofah!
18Cywilyddier a dychryner hwynt byth bythoedd,
A gwaradwydder a difether hwynt,
19A gwybyddont hwy mai Tydi—mai Dy enw Di yn unig (yw) Iehofah,
Y Goruchaf ar yr holl ddaear!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.