Psalmau 67 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

LXVII.

1I’r blaengeiniad, ar offer tannau. Psalm. Cân.

2Duw (fo) radlawn wrthym ac a’n bendithio,

A ffordd Di,

Ymhlith yr holl genhedloedd Dy waredigaeth!

4Dïolched y bobloedd i Ti, O Dduw,

Dïolched y bobloedd i gyd i Ti!

5Llawenyched a llawen-ganed y cenhedloedd,

Am i Ti farnu’r bobloedd yn uniawn,

Ac i Ti dywys y bobloedd ar y ddaear! Selah.

6Dïolched y bobloedd i Ti, O Dduw,

Dïolched y bobloedd i gyd i Ti!

7Y ddaear sy’n rhoddi ei ffrwyth;

Bendithied Duw ni, ein Duw ni!

8Bendithied Duw ni.

A’i ofni Ef gwnaed holl derfynnau’r ddaear!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help