Psalmau 26 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXVI

1(Psalm) o eiddo Dafydd.

Barn fi, O Iehofah!

Canys myfi, yn fy niniweidrwydd yr ymrodiais,

Ac yn Iehofah yr ymddiriedais heb anwadalu o honof.

2Prawf fi, O Iehofah, a chwilia fi,

Hola fy arennau a’m calon!

3Canys Dy radlondeb Di (sydd) o flaen fy llygaid,

Ac ymrodio yr wyf yn Dy wirionedd;

4Nid eisteddais gyda phobl ddrygionus,

A chyda phobl ymguddgar nid aethum;

5Cashâu yr wyf gynnulleidfa’r drwgweithredwyr,

A chyda’r annuwiolion nid eisteddaf;

6Golchaf fy nwylaw mewn diniweidrwydd,

Ac amgylchaf Dy allor Di, O Iehofah,

7I lefaru â llais diolchgarwch,

Ac i fynegi Dy holl ryfeddodau;

8O Iehofah, caru yr wyf drigfan Dy dŷ Di,

A lle preswylfa Dy ogoniant!

9Na ddwg ymaith fy enaid ynghŷda’r pechaduriaid,

Na’m bywyd ynghyda’r dynion gwaedlyd!

10Y rhai (y mae) yn eu dwylaw ddrygioni,

A’u deheulaw yn llawn ariandag:

11Eithr myfi, yn fy niniweidrwydd yr wyf yn rhodio;

Gollwng fi yn rhŷdd, a bydd radlawn wrthyf!

12Fy nhroed (sydd) yn sefyll ar yr union,

Yn y cynnulleidfaoedd y bendithiaf Iehofah.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help