1Psalm. Cân cyssegriad tŷ godi o Honot fi,
Ac na lawenhêaist fy ngelynion o’m plegid!
3O Iehofah, fy Nuw!
Llefais Arnat ac iachêaist fi!
4O Iehofah, dyrchefaist fy enaid o annwn,
Dadebraist fi oddi wrth y rhai a ddisgynodd i’r bedd!
5Cenwch salmau i Iehofah, Ei saint Ef,
A chlodforwch Ei goffadwriaeth sanctaidd;
6Canys am amrant yn Ei lid Ef, ond am oes yn Ei radlondeb;
Yn y prydnhawn i lettya y daw wylo, ond erbyn y bore (y bydd) gorfoledd.
7Etto myfi, yn fy niogelwch y dywedais,
“Ni’m siglir yn dragywydd;”
8O Iehofah, yn Dy radlondeb y seiliaist i’m huchelder nerth,
—Cuddaist Dy wyneb, aethum yn wallgofus; —
9Arnat Ti, O Iehofah, y galwaf,
Ac â Iehofah yr ymbiliaf, (gan ddywedyd)
10“Pa beth (yw) ’r budd yn fy ngwaed gan ddisgyn o honof i’r bedd?
A glodfora ’r llwch Di,
A fynega efe Dy wirionedd?
11Clyw, O Iehofah, a bydd radlawn wrthyf,
O Iehofah, bydd gynnorthwywr i mi!”
12Tröaist fy ngalar yn gogoniant Di, ac heb dewi!
O Iehofah, fy Nuw yn dragywydd y’th glodforaf!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.