1Ffoi, ac heb neb yn erlyn, a wna ’r annuwiol,
Ond y cyfiawn rai (sydd) fel llew a ymhydera.
2Ynghamwedd gwlad aml (fydd) ei thywysogion,
Ond gyda dynion yn bwyllog (a) deallus, yna yr estyn efe (ei ddyddiau).
3 Gwr tlawd ac yn gorthrymmu ’r anghenus,
(Sydd) wlaw yn ysgubo ymaith fel na bo lluniaeth.
4A ymadawont â ’r gyfraith a ganmolant yr annuwiol,
Ond a gadwont y gyfraith a ymddigiant yn eu herbyn.
5Dynion drwg ni ddeallant farn,
Ond ceiswyr Iehofah a ddeallant bob peth.
6Gwell y tlawd a rodio yn ei symlrwydd,
Na ’r gwyrawg ei ffordd ddau-ddyblig, ac yntau yn gyfoethog.
7A ddalio ar y gyfraith (sydd) fab deallus,
Ond a ymhyfrydo mewn gwastraffwyr a gywilyddia ei dad.
8A amlhâo ei gyfoeth trwy usuriaeth ac ocraeth,
—I dosturio wrth y tlodion y casgl efe ef.
9A gilio ei glust rhag gwrando ’r gyfraith,
Hefyd ei weddi ef (sydd) ffieiddbeth.
10A gamarweinio ’r cyfiawn rai mewn ffordd ddrwg,
Yn y pydew y syrth efe ei hun;
A ’r diniweid a etifeddant ddaioni.
11Doeth yn ei olwg ei hun (yw)’r gwr cyfoethog,
Ond un tlawd deallus a ’i mawr (yw)’r gwychder,
Ond pan ddyrchafer yr annuwiolion yr ymgudd dynion.
13A guddio ei gamweddau ni lwydda,
Ond a’(u) haddefo ac a’(u) gadawo a gaiff drugaredd.
14Gwyn fyd y dyn a ofno beunydd,
Ond a galedo ei galon a syrth i ddrwg.
15Llew rhuadwy, ac arth wangeus
(Yw) llywydd annuwiol dros bobl anghenus.
16Oh dywysog diffygiol o ddeall, ond aml ei orthrymiad!
A gasâo elw anwir a estyn (ei) ddyddiau.
17Dyn gorthrymedig gan waed enaid,
I ’r pwll y brysia; —nac attalied neb ef!
18A rodio ’n syml a waredir,
Ond y gwyrawg ei ffordd ddauddyblyg a syrth mewn un (o honynt).
19A lafurio ei dir a orddigonir o fara,
Ond a redo ar ol dyhirod a orddigonir o dlodi.
20Gwr ffyddlon (fydd) aml ei fendithion,
Ond a frysio i ymgyfoethogi ni ddieuogir.
21Derbyn gwyneb, nid da (yw),
Ond etto am dammaid o fara y gwna dyn gam.
22Prysuro ar ol cyfoeth y mae ’r gwr ymddiriedo yn Iehofah a ireiddir.
26A ymdiriedo yn ei galon ei hun, hwnnw (sydd) ffol,
Ond a rodio mewn doethineb, hwnnw a achubir.
27A roddo i ’r tlawd ni bydd anghen arno,
Ond a guddio ei lygaid fydd aml ei felldithion.
28Pan ddyrchafer yr annuwiolion yr ymgudd dynion,
Ond pan dderfydd am danynt yr amlhêir y cyfiawn rai.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.