1Ond hyn gwybydd, yn y dyddiau diweddaf y daw amseroedd caled,
2canys bydd dynion yn hunan-gar, yn arian-gar, yn ymffrostwyr, yn feilchion, yn gablwyr, yn anufuddion i rieni,
3yn annïolchgar, yn ansanctaidd, yn angharedig, yn anghymmodlawn, yn enllibaidd, yn anllad, yn anfwyn,
4yn ddiserch i’r hyn sy dda, yn fradwyr, yn fyrbwyll, yn chwyddedig,
5yn caru meluswedd yn fwy na charu Duw, a chanddynt rith duwioldeb, ond ei grym a wadasant;
6oddiwrth y rhai hyn tro ymaith; canys o’r rhai hyn y mae y rhai sy’n ymgludo i’r teiau, ac yn dwyn yn gaeth wrageddos llwythog o bechodau, gwrageddos yn cael eu harwain gan amryw chwantau,
7beunydd yn dysgu, ac i wybodaeth y gwirionedd heb allu byth ddyfod.
8Yn y modd y bu i Iannes ac Iambres wrthsefyll Mosheh, felly y rhai hyn hefyd sy’n gwrthsefyll y gwirionedd, dynion llygredig o ran eu meddwl, yn anghymmeradwy ynghylch y ffydd.
9Ond nid ant rhagddynt ym mhellach, canys eu hynfydrwydd fydd amlwg i bawb, fel y bu yr eiddynt hwythau hefyd.
10Ond tydi a ganlynaist fy nysgad i, fy ymarweddiad, fy arfaeth, fy ffydd, fy hir-ymaros, fy nghariad, fy amynedd,
11fy erlidiau, fy nioddefiadau; y fath bethau ag a ddigwyddasant i mi yn Antiochia, yn Iconium, yn Lustra; y fath erlidiau ag a ddioddefais; ac o’r cwbl y’m gwaredodd yr Arglwydd.
12A phawb y sy’n ewyllysio byw yn dduwiol yng Nghrist Iesu, a erlidir.
13Ond drwg-ddynion ac hocedwyr a ant rhagddynt waeth-waeth, yn arwain ar gyfeiliorn, ac yn cael eu harwain ar gyfeiliorn.
14Ond tydi, aros yn y pethau a ddysgaist ac y’th sicrhawyd am danynt, gan wybod am ba rai y dysgaist,
15ac mai er’s yn faban y gwyddost y sanctaidd ysgrifeniadau, y rhai a allant dy wneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy ffydd, yr hon sydd yng Nghrist Iesu.
16Yr holl Ysgrythyr y sydd wedi ei rhoddi trwy ysprydoliaeth Duw sydd hefyd fuddiol er athrawiaeth, er argyhoeddiad, er cyweiriad, er y ddisgyblaeth y sydd yng nghyfiawnder,
17fel mai perffaith fyddo dyn Duw, at bob gweithred dda yn berffeithiedig.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.