1Gwae ’r meibion cyndyn, medd Iehofah,
Am lunio o honynt gyngor ond nid oddi wrthyf Fi,
A thywallt diod-offrwm ond nid (â) ’m hyspryd I,
Er mwyn chwannegu pechod at bechod,
2Y rhai sydd yn myned i ddisgyn i’r Aipht,
Ac â Fy ngenau I nid ymofynasant,
I ymnerthu yn nerth Pharaoh,
Ac i ymddiried yng nghysgod yr Aipht;
3Ond i chwi bydd nerth Pharaoh yn gywilydd,
A’r ymddiried yng nghysgod yr Aipht yn waradwydd.
4Canys yn Tsöan y bu ei dywysogion ef,
A’i genhadau at Hanes a ddaethant.
5Pob un a gywilyddiwyd o herwydd y bobl na fuddiodd iddynt;
Nid (oeddynt) yn gymmorth nac yn llesâd,
Ond yn gywilydd ac yn warth.
6 Baich yr anifeiliaid (sydd yn) y dehau
Mewn tir cystudd ac ing,
Y llewes a’r llew (sydd) o honynt,
Y wiber a’r sarph danllyd hedegog:
Dygant ar gefnau asynod ieuaingc eu golud,
Ac ar hwrwg camelod eu trysorau,
At bobl na wna les.
7Canys yr Aipht tarth (yw), ac ofer y cynnorthwyant hwy,
Am hynny y gelwais hi Rahab y Ddioglyd.
8Yn awr dos, ysgrifena hyn mewn llêch ger eu bron hwynt,
Ac mewn llyfr noda hyn:
Fel y byddo hyd ddyddiau i ddyfod,
Yn dystiolaeth yn dragywydd.
9Canys pobl wrthryfelgar (yw) y rhai hyn, plant celwyddog,
Plant na fynnant wrando cyfraith Iehofah,
10Y rhai a ddywedant wrth y gweledyddion Na welwch,
Ac wrth y prophwydi, Na phrophwydwch i ni bethau uniawn,
Traethwch i ni weniaith, prophwydwch hudoliaethau;
11Ciliwch or ffordd, tröwch o’r llwybr,
Atteliwch o’n golwg Sanct Israel.
12Am hynny fel hyn y dywed Sanct Israel,
Am wrthod o honoch y gair hwn,
Ac ymddiried mewn trais a chamdroi,
A phwyso ar hynny;
13Am hynny y bydd i chwi yr anwiredd hyn
Fel rhwygiad ar syrthio, chwyddedig mewn mur uchel,
Yr hwn yn ddisymmwth, mewn amrant, y daw ei ddrylliad;
14A’i ddrylliad fydd fel drylliad llestr crochennyddion,
Gan chwilfriwio ni thosturia efe,
Fel na chaffer ym mysg ei friwsion
Gragen i gymmeryd tân o’r aelwyd,
Neu i godi dwfr o’r ddyfrgist.
15Dïau fel hyn y dywed yr Arglwydd Iehofah Sanct Israel,
Trwy ddychwelyd a gorphwys y bydd iachawdwriaeth i chwi,
Mewn llonyddwch a gobaith y bydd eich cadernid;
Ond ni fynnech.
16Eithr dywedasoch, “Nage; ond ar feirch y ffown;”
Am hynny y cewch ffoi;
“Ac ar (feirch) buain y marchogwn;”
Am hynny buain y bydd eich erlidwŷr.
17Un mil wrth gerydd un,
Wrth gerydd pump deng mil o honoch a ffŷ,
Hyd oni’ch gadawer megis hwylbren ar ben y mynydd,
Ac fel llumman ar y bryn uchel.
18Er hynny y disgwyl Iehofah i fod yn raslawn wrthych,
Ac er hynny y saif efe o hirbell i dosturio wrthych;
Canys Duw cyfiawnder (yw) Iehofah,
Gwyn eu byd y rhai a ddisgwyliant wrtho.
19Canys pobl sanctaidd yn Tsïon a drig;
Yn Ierwshalem gan wylo y wyli atto Ef;
Gan fod yn raslawn y bydd Efe yn raslawn wrthyt ar lef dy waedd,
Pan y’i clywo, Efe a’th ettyb.
20Er rhoddi 『2o’r Arglwydd』 『1i chwi』 fara ing a dwfr gorthrymder,
Etto ni orchuddir mwy dy athrawon,
Ond bydd dy lygaid yn gweled dy athrawon,
21A’th glustiau a glywant air o’th ol yn dywedyd,
Hon (yw) ’r ffordd, rhodiwch ynddi,
Ac na thrôwch i’r llaw ddehau, ac na thrôwch i’r aswy.
22A chwi a halogwch lafnau cerf-ddelwau dy arian,
A gwisg tawdd-ddelwau dy aur,
Gwasgeri hwynt fel cadach misglwyf,
“Dos ymaith,” dywedi wrthynt.
23Ac Efe a rydd wlaw i’th hâd
Â’r hwn y heui’r tir,
A bara cnwd y ddaear,
Ac efe a fydd yn dew ac yn aml;
A phawr dy anifeiliaid yn y dydd hwnnw (mewn) porfa helaeth;
24A’r ychen a’r asynod ieuaingc, llafurwŷr y tir,
Ebran halenaidd a borant hwy,
Yr hwn a nithiwyd â gwỳntyll ac â gogr.
25A bydd ar bob mynydd uchel,
Ac ar bob bryn dyrchafedig,
Nentydd a ffrydiau dyfroedd,
Yn nydd y lladdfa fawr, pan syrthio ’r tyrau.
26A bydd llewyrch y lloer megis llewyrch yr huan,
A llewyrch yr huan a fydd saith mwy,
Megis llewyrch saith niwrnod,
Yn y dydd y rhwyma Iehofah friw Ei bobl,
Ac yr 3iachao 1archoll Ei 2darawiad.
27Wele enw Iehofah yn dyfod o bell,
Llosgi (y mae) Ei ddigofaint, ac ardderchog y fflam,
Ei wefusau a lanwyd o ddigter,
A’i dafod megis tân ysol:
28A’i anadl megis afon lifeiriol,
Hŷd hanner y gwddf y cyrraedd hi;
I wỳntyllio ’r cenhedloedd â gwỳntyll oferedd,
A ffrwyn gam-arweiniawl (a fydd) yngenau ’r bobloedd.
29Y gân a fydd gennych megis y noswaith y sancteiddir uchel-wyl,
A llawenydd calon megis pan elo un â phibell,
I fyned ar fynydd Iehofah, at Graig yr Israel.
30Ac Iehofah a bâr glywed ardderchowgrwydd Ei lais,
A disgyniad Ei fraich a bâr Efe ei weled,
Mewn digter llid, a fflam dân ysol,
Llifeiriant, a gwlaw tymhestlog, a cherrig cenllysg.
31Canys â llais Iehofah y distrywir yr Assyriad,
Â’r wialen y tery Efe.
32A bydd, lle bynnag yr elo ’r wialen geryddawl,
Yr hon a esyd Iehofah arno ef,
Gyd â thympanau a thelynau (y bydd),
Ac â rhyfel tost yr ymladd Efe yn eu herbyn.
33 Canys darparwyd Tophet er ys hir amser,
Hyd y nod hi i’r brenhin a barottôwyd;
Efe a’i dyfnhâodd; Efe a’i ehangodd,
Pentwr tân a choed lawer,
Anadl Iehofah, megis afon o frwmstan, a i cynheu.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.