1Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a’r Gair oedd gyda Duw; a Duw oedd y Gair.
2Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw.
3Pob peth, trwyddo Ef y’i gwnaethpwyd, ac hebddo Ef ni wnaed hyd yn oed un peth o’r a wnaethpwyd.
4Ynddo Ef yr oedd bywyd, ac y bywyd oedd oleuni dynion.
5A’r Goleuni, yn y tywyllwch y llewyrcha; a’r tywyllwch nid amgyffredodd Ef.
6Yr oedd dyn wedi ei ddanfon oddiwrth Dduw, a’i enw Ioan.
7Hwn a ddaeth yn dystiolaeth, fel y tystiolaethai am y Goleuni, fel y byddai i bawb gredu trwyddo ef.
8Nid oedd Efe y Goleuni, eithr fel y tystiolaethai am y Goleuni.
9Yr oedd y gwir Oleuni, yr Hwn sy’n goleuo pob dyn, yn dyfod i’r byd.
10Yn y byd yr oedd Efe; a’r byd trwyddo Ef a wnaethpwyd, ac y byd nid adnabu Ef.
11At yr eiddo Ei hun y daeth, ac Ei bobl Ei hun ni dderbyniasant Ef;
12ond cynnifer ag a’i derbyniasant, rhoddes iddynt awdurdod i fyned yn blant Duw, sef i’r rhai sy’n credu yn Ei enw Ef;
13y rhai, nid o waed, nac ychwaith o ewyllys cnawd, nac ychwaith o ewyllys dyn, eithr o Dduw y’u ganwyd.
14Ac y Gair, yn gnawd yr aeth, a thabernaclodd yn ein plith (a gwelsom Ei ogoniant, gogoniant megis yr unig-anedig oddiwrth y Tad), yn llawn gras a gwirionedd.
15Ioan a dystiolaethodd am Dano, ac a lefodd gan ddywedyd, Hwn yw Efe am yr Hwn y dywedais, Yr Hwn sy’n dyfod ar fy ol, o’m blaen yr oedd Efe, canys cyn na mi yr ydoedd.
16Canys o’i gyflawnder Ef nyni oll a dderbyniasom, a gras am ras.
17Canys y Gyfraith, trwy Mosheh y’i rhoddwyd; a gras a gwirionedd trwy Iesu Grist y buant.
18Duw, ni fu i neb erioed Ei weled Ef: yr unig-anedig Fab, yr Hwn sydd ym mynwes y Tad, Efe a’i mynegodd.
19A hon yw tystiolaeth Ioan, pan atto y danfonodd yr Iwddewon o Ierwshalem offeiriaid a Lefiaid, fel y gofynent iddo, Tydi, pwy ydwyt?
20a chyffesodd, ac ni wadodd; a chyffesodd, Nid wyf fi y Crist.
21A gofynasant iddo, Pa beth, ynte? Ai Elias wyt ti? A dywedodd, Nag wyf. Ai Prophwyd wyt ti? Ac attebodd, Nage.
22Dywedasant, gan hyny, wrtho, Pwy ydwyt, fel y rhoddom atteb i’r rhai a’n danfonasant? Pa beth a ddywedi am danat dy hun? Ebr efe, myfi wyf
23“Llef un yn llefain,
Yn yr anialwch gwnewch yn uniawn ffordd Iehofah,”
fel y dywedodd Eshaiah y prophwyd.
24Ac wedi eu danfon yr oeddynt gan y Pharisheaid.
25A gofynasant iddo, a dywedasant wrtho, Paham, gan hyny, y bedyddi, os tydi nid wyt y Crist, nac ychwaith Elias, nac ychwaith y prophwyd?
26Iddynt yr attebodd Ioan, gan ddywedyd, Myfi a fedyddiaf â dwfr. Yn eich canol y mae’n sefyll yr Hwn nid ydych chwi yn Ei adnabod;
27yr Hwn y sy’n dyfod ar fy ol; yr Hwn nid wyf fi deilwng i ddattod carrai Ei esgid Ef.
28Y pethau hyn, yn Bethania y digwyddasant, y tu hwnt i’r Iorddonen, lle yr oedd Ioan yn bedyddio.
29Trannoeth gwelodd Ioan yr Iesu yn dyfod atto, a dywedodd,
Wele Oen Duw yr Hwn sy’n dwyn ymaith bechod y byd;
30Hwn yw Efe am yr Hwn y dywedais i, “Ar fy ol y mae’n dyfod ŵr yr Hwn o’m blaen yr oedd, canys cyn na mi yr ydoedd.”
31Ac myfi nid adwaenwn Ef: eithr fel yr amlygid Ef i’r Israel, am hyny y daethum i gan fedyddio â dwfr.
32A thystiolaethodd Ioan gan ddywedyd, Gwelais yr Yspryd yn disgyn, fel colommen, o’r nef, ac arhosodd Arno;
33ac myfi nid adwaenwn Ef; eithr yr hwn a’m danfonodd i fedyddio â dwfr, Efe a ddywedodd wrthyf, “Ar bwy bynnag y gwelych yr Yspryd yn disgyn ac yn aros Arno, Efe yw yr Hwn sy’n bedyddio â’r Yspryd Glân.”
34Ac myfi a welais, ac a dystiolaethais mai Efe yw Mab Duw.
35Trannoeth drachefn y safai Ioan a dau o’i ddisgyblion;
36ac wedi edrych ar yr Iesu yn rhodio, dywedodd, Wele Oen Duw.
37A chlywodd y ddau ddisgybl ef yn llefaru, a chanlynasant yr Iesu.
38Ac wedi troi o’r Iesu, a’u gweled hwynt yn canlyn, dywedodd wrthynt, Pa beth a geisiwch? A hwy a ddywedasant Wrtho, Rabbi (yr hyn o’i gyfieithu yw, Athraw), pa le yr arhosi?
39Dywedodd wrthynt, Deuwch a gwelwch. Aethant, gan hyny, a gwelsant pa le yr arhosai; a chydag Ef yr arhosasant y diwrnod hwnw, a’r awr oedd ynghylch y ddegfed.
40Yr oedd Andreas, brawd Shimon Petr, yn un o’r ddau a glywsant Ioan ac a’i canlynasant Ef.
41Cafodd hwn yn gyntaf ei frawd ei hun Shimon, a dywedodd wrtho, Cawsom y Meshiah, yr hwn o’i ddehongli yw Crist.
42Daeth ag ef at yr Iesu. Wedi edrych arno, yr Iesu a ddywedodd, Tydi wyt Shimon, mab Ioan: tydi a elwir Cephas, yr hwn, o’i ddehongli, yw Petr.
43Trannoeth yr ewyllysiodd Efe fyned allan i Galilea, a chafodd Philip; a dywedodd yr Iesu wrtho, Canlyn Fi.
44Ac yr oedd Philip o Bethtsaida, o ddinas Andreas a Petr.
45Cafodd Philip Nathanael, a dywedodd wrtho, Yr Hwn yr ysgrifenodd Mosheh am Dano yn y Gyfraith, ac y Prophwydi, a gawsom, sef Iesu, Mab Ioseph, yr Hwn sydd o Natsareth.
46Ac wrtho y dywedodd Nathanael, Ai o Natsareth y gall dim da fod? Wrtho y dywedodd Philip, Tyred a gwel.
47Gwelodd yr Iesu Nathanael yn dyfod Atto, a dywedodd am dano, Wele, Israeliad mewn gwirionedd, yn yr hwn nid oes twyll.
48Wrtho y dywedodd Nathanael, O ba beth y’m hadwaenost i? Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrtho, Cyn na fu i Philip dy alw di, pan oeddit dan y ffigysbren, gwelais di.
49Iddo yr attebodd Nathanael, Rabbi, Tydi yw Mab Duw; Tydi yw Brenhin yr Israel.
50Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrtho, Ai o herwydd dywedyd o Honof wrthyt, “Gwelais di dan y ffigysbren,” y credi? Pethau mwy na’r rhai hyn a weli.
51A dywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, y dywedaf wrthych, Cewch weled y nef yn agored, ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y Dyn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.