Philippiaid 3 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Yn ddiweddaf, fy mrodyr, llawenychwch yn yr Arglwydd. Ysgrifenu yr un pethau attoch, i mi yn wir nid yw flin, ond i chwi diogel yw.

2Bydded eich llygaid ar y cwn; bydded eich llygaid ar y drwg-weithredwyr; bydded eich llygaid ar y cyd-dorriad;

3canys nyni yw’r amdorriad, y rhai trwy Yspryd Duw yr ym yn gwasanaethu ac yn ymffrostio yng Nghrist Iesu, ac nid yn y cnawd yn ymddiried;

4er fy mod i ag achos ymddiried hyd yn oed yn y cnawd. Os meddylia neb arall ei fod ag achos ymddiried yn y cnawd, yr wyf fi yn hytrach;

5gydag amdorriad ar yr wythfed dydd; o genedl Israel; o lwyth Beniamin; Hebrewr o Hebreaid; yn ol y Gyfraith yn Pharishead;

6yn ol sel yn erlid yr eglwys; yn ol y cyfiawnder y sydd yn y Gyfraith, wedi bod yn ddiargyhoedd.

7Eithr y pethau a oedd i mi yn elwau, y rhai hyn a gyfrifais, er mwyn Crist, yn golled.

8Eithr, yn wir, yr wyf yn cyfrif pob peth yn golled o herwydd rhagoroldeb gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd, er mwyn yr Hwn pob peth a gollwyd i mi, ac eu cyfrif yn dom yr wyf, fel y bo Crist wedi Ei ennill genyf,

9ac y’m caffer Ynddo Ef, nid a chenyf fy nghyfiawnder y sydd o’r Gyfraith, eithr yr hwn sydd trwy ffydd yng Nghrist,

10y cyfiawnder oddiwrth Dduw trwy ffydd; er mwyn Ei adnabod Ef, a gallu Ei adgyfodiad, a chymdeithas Ei ddioddefiadau, gan gyd-ffurfio fy hun â’i farwolaeth Ef,

11os mewn rhyw fodd y cyrhaeddaf yr adgyfodiad oddiwrth y meirw.

12Nid fy mod eisoes wedi cael, neu eisoes wedi fy mherffeithio; ond dilyn yr wyf, os hefyd yr ymaflwyf yn y peth er mwyn yr hwn yr ymaflwyd ynof hefyd gan Grist Iesu.

13Brodyr, myfi a gyfrifaf fy hun na fu i mi etto ymaflyd; ond un peth, gan anghofio y pethau sydd o’r tu cefn, a chan ymestyn at y pethau sydd o’r tu blaen,

14at y nod yr wyf yn dilyn, at gamp galwedigaeth fry Duw yng Nghrist Iesu.

15Cynnifer o honom, gan hyny, ag sydd berffaith, hyn syniwn; ac os rhyw ffordd arall y syniwch ddim, hyn hefyd y bydd i Dduw ei ddatguddio i chwi:

16er hyny, at yr hyn y daethom, yn yr unrhyw cerddom.

17Byddwch efelychwyr i mi, frodyr, ac edrychwch ar y rhai sy’n rhodio felly, fel y mae genych ni yn siampl:

18canys llawer sy’n rhodio, am y rhai mynych y dywedais wrthych, ac yn awr, ïe, dan wylo, yr wyf yn dywedyd, mai gelynion croes Crist ydynt,

19diwedd y rhai yw distryw, Duw y rhai yw eu bol, a’u gogoniant yn eu cywilydd; y rhai, y pethau daearol a syniant;

20canys ein dinasyddiaeth ni, yn y nefoedd y mae; o’r lle y disgwyliwn hefyd iachawdwr,

21yr Arglwydd Iesu Grist, yr Hwn a ddull-newidia gorph ein hymostyngiad i fod yn un-ffurf â chorph Ei ogoniant, yn ol gweithrediad Ei allu i ddarostwng pob peth Iddo Ei hun.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help