1Canys cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ŵr o berchen tŷ, yr hwn a aeth allan gyda’r wawr i gyflogi gweithwyr i’w winllan:
2ac wedi cyttuno â’r gweithwyr er denar y dydd, danfonodd hwynt i’w winllan:
3ac wedi myned allan ynghylch y drydedd awr, gwelodd eraill yn sefyll yn y farchnadfa yn segur;
4ac wrthynt hwy hefyd y dywedodd, Ewch chwithau hefyd i’r winllan, a pha beth bynnag fyddo gyfiawn a roddaf i chwi: a hwy a aethant ymaith.
5Etto, wedi myned allan ynghylch y chweched a’r nawfed awr, y gwnaeth efe yr un modd.
6Ac ynghylch yr unfed awr ar ddeg, wedi myned allan, cafodd eraill yn sefyll; a dywedodd wrthynt, Paham yr ydych yma yn sefyll yr holl ddydd yn segur?
7Dywedasant wrtho, Am na chyflogodd neb nyni. Dywedodd wrthynt, Ewch chwithau hefyd i’r winllan.
8A’r hwyr wedi dyfod, dywedodd arglwydd y winllan wrth ei oruchwyliwr, Galw y gweithwyr a thâl iddynt eu cyflog, gan ddechreu o’r rhai diweddaf hyd y rhai cyntaf.
9Ac wedi dyfod o’r rhai a gyflogasid ynghylch yr unfed awr ar ddeg, cawsant bob un ddenar.
10Ac wedi dyfod o’r rhai cyntaf, tybiasant mai mwy a gaent; a chawsant hwy hefyd bob un ddenar:
11ac wedi cael, grwgnachasant yn erbyn gŵr y tŷ,
12gan ddywedyd, Y rhai hyn, yr olaf, un awr y gweithiasant, ac yn gystal â ni y gwnaethost hwynt, y rhai a ddygasom bwys y dydd a’r gwres poeth.
13Ac efe, gan atteb, a ddywedodd wrth un o honynt, Cyfaill, nid gwneud cam â thi yr wyf: onid er denar y cyttunaist â mi?
14Cymmer yr eiddot a dos ymaith: ewyllysio yr wyf roddi i hwn, yr olaf, yr un modd hefyd ag i ti.
15Onid cyfreithlawn i mi wneuthur yr hyn a ewyllysiaf â’m heiddof? A ydyw dy lygad yn ddrwg o herwydd i mi fod yn dda.
16Felly y bydd y rhai olaf yn flaenaf, ac y blaenaf yn olaf.
17Ac wrth fyned i fynu o’r Iesu i Ierwshalem, cymmerodd y deuddeg disgybl o’r neilldu, ac ar y ffordd y dywedodd wrthynt, Wele myned i fynu i Ierwshalem yr ydym;
18a Mab y Dyn a draddodir i’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a chondemniant Ef i farwolaeth;
19a thraddodant Ef i’r cenhedloedd i’w watwar a’i flangellu a’i groes-hoelio; a’r trydydd dydd yr adgyfyd.
20A daeth Atto fam meibion Zebedëus, ynghyda’i meibion, gan ymorchreinio a deisyf rhyw beth Ganddo.
21Ac Efe a dywedodd wrthi, Pa beth a ewyllysi? Dywedodd hithau Wrtho, Dywaid am eistedd o’r rhai hyn, fy nau fab, y naill ar Dy law ddehau, a’r llall ar Dy law aswy, yn Dy deyrnas.
22A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed o’r cwppan, yr hwn yr wyf Fi ar fedr yfed o hono?
23Dywedasant Wrtho, Gallwn. Dywedodd wrthynt, o’m cwppan yn wir yr yfwch: ond eistedd ar Fy llaw ddehau ac ar yr aswy, nid yw Eiddof ei roddi oddieithr i’r rhai y darparwyd ef iddynt gan Fy Nhad.
24Ac wedi clywed o honynt, y deg a sorrasant o achos y ddau frawd.
25A’r Iesu, wedi eu galw hwynt Atto, a ddywedodd. Gwyddoch fod pennaethiaid y Cenhedloedd yn tra-arglwyddiaethu arnynt, a’r rhai mawrion yn tra-awdurdodi arnynt.
26Nid felly y y bydd yn eich plith chwi; eithr pwy bynnag a ewyllysio fyned yn fawr yn eich plith, bydded eich gweinidog;
27a phwy bynnag a ewyllysio fod yn gyntaf yn eich plith, bydded eich gwas;
28fel ni fu i Fab y Dyn ddyfod i’w wasanaethu, eithr i wasanaethu, ac i roddi Ei einioes yn bridwerth dros lawer.
29Ac wrth fyned o honynt allan o Iericho, canlynodd tyrfa fawr Ef:
30ac wele, dau ddeillion yn eistedd ar ymyl y ffordd, wedi clywed fod yr Iesu yn myned heibio, a waeddasant, gan ddywedyd, Arglwydd, tosturia wrthym, Fab Dafydd.
31A’r dyrfa a’u dwrdiasant, fel y tawent; ond hwy mwy y gwaeddasant, gan ddywedyd, Arglwydd, tosturia wrthym, Fab Dafydd.
32Ac wedi sefyll, yr Iesu a’u galwodd hwynt, ac a ddywedodd, Pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur o Honof i chwi?
33Dywedasant Wrtho, Arglwydd, agoryd ein llygaid ni.
34A chan dosturio wrthynt, yr Iesu a gyffyrddodd â’u llygaid; ac yn uniawn y cawsant eu golwg, ac y canlynasant Ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.