1I’r blaengeiniad. Psalm o eiddo Dafydd.
2O Iehofah, yn Dy nerth Di y llawenycha ’r Brenhin;
Ac yn Dy gymmorth Di mor ddirfawr yr ymhyfryda efe!
3Chwennychiad ei galon a roddaist iddo,
A dymuniad ei wefusau ni ommeddaist,
4Eithr achubaist ei flaen ef â bendithion daioni,
Gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth;
5Am oes y gofynodd efe i Ti — Ti a’i rhoddaist,
—(Ië) hirder dyddiau, yn dragywydd ac am byth;
6Mawr (yw) ei ogoniant trwy Dy gymmorth Di,
Ardderchowgrwydd a gorwychedd a osodaist arno;
7Ië, gosodi ef yn fendith hyd byth,
Llawenychi ef â llawenydd ger Dy fron,
8Canys y Brenhin a ymddiried yn Iehofah,
A thrwy radlondeb y Goruchaf ni siglir ef.
9Gafael a gaiff Dy law ar Dy holl elynion,
Dy ddeheulaw a gaiff afael ar Dy gaseion;
10Gwnei hwynt fel ffwrn dân yn amser Dy ymddangosiad, Iehofah yn Ei lid a’u distrywia hwynt,
A’u bwytta a wnaiff y tân;
11Eu ffrwyth, oddi ar y ddaear y’i distrywi,
A’u hâd o blith meibion dynion:
12Er iddynt daenu yn Dy erbyn Di ddrwg,
(A) bwriadu drwg-amcan, nis gallant ddim,
13Canys gwnei iddynt droi eu cefnau,
Ar Dy linynnau yr anneli yn erbyn eu gwynebau.
14Ymddyrcha, O Iehofah, yn Dy nerth!
Per-leisiwn, ac âg offer cerdd y canwn Dy gadernid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.