I. Corinthiaid 4 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Felly cyfrifed dyn nyni megis gweinidogion Crist, a disdeiniaid dirgeledigaethau Duw.

2Yma, ym mhellach, y gofynir yn y disdeiniaid mai ffyddlawn y ceir neb.

3Ond genyf fi peth o’r lleiaf yw fy marnu genych chwi, neu gan farn ddynol.

4Eithr nid wyf yn barnu mi fy hun, canys nid oes dim a wn yn fy erbyn fy hun; eithr nid gan hyn y’m cyfiawnhawyd; ond yr Hwn sydd yn fy marnu, yr Arglwydd yw.

5Felly, cyn yr amser na fernwch ddim, hyd oni ddelo’r Arglwydd, yr Hwn a ddwg i’r goleuni guddiedig bethau y tywyllwch, ac a amlyga gynghorau y calonnau; ac yna ei fawl fydd i bob dyn oddiwrth Dduw.

6A’r pethau hyn, frodyr, a droais mewn ffigr attaf fy hun ac Apolos, er eich mwyn, fel ynom ni y dysgoch beidio a myned tu hwnt i’r pethau a ysgrifenwyd, fel na bo i’r naill ymchwyddo dros y llall, yn erbyn y llall.

7Canys pwy sydd yn dy wneuthur di yn wahanol? A pha beth sydd genyt na dderbyniaist? Ac os derbyniaist hefyd, paham yr ymffrosti, fel pe bait heb dderbyn?

8Eisoes y’ch diwallwyd; eisoes goludog ydych; hebddom ni y teyrnasasoch. Ac O na baech yn teyrnasu, fel y byddai i ninnau hefyd gyd-deyrnasu gyda chwi!

9Canys tybiaf y bu i Dduw ein dangos ni, yr apostolion, yn ddiweddaf, megis wedi ein bwrw i angau, canys gwnaethpwyd ni yn ddrych i’r byd, ac i angylion, ac i ddynion.

10Nyni, ffyliaid ydym er mwyn Crist, a chwithau yn ddoethion yng Nghrist; nyni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion; chwychwi yn ogoneddus, a ninnau yn ddianrhydedd.

11Hyd yr awrhon newyn sydd arnom a syched, a noethion ydym, ac yn cael ein cernodio, ac heb drigfa sefydlog genym;

12ac yn llafurio gan weithio â’n dwylaw ein hunain; pan yn cael ein gwatwar, bendithio yr ydym;

13pan yn cael ein herlid, dioddef yr ydym; pan yn cael ein cablu, attolygu yr ydym; fel budreddi’r byd y’n gwnaed, a sorod pob peth hyd yn hyn.

14Nid gan eich gwaradwyddo yr wyf yn ysgrifenu y pethau hyn; eithr megis fy mhlant anwyl, eich cynghori yr wyf;

15canys er i ddeng mil o hyfforddwyr fod genych yng Nghrist, er hyny, nid llawer o dadau sydd, canys yn Iesu Grist,

16trwy’r efengyl, myfi a’ch cenhedlais; attolygaf i chwi, gan hyny, byddwch efelychwyr i mi.

17O achos hyn y danfonais attoch Timothëus, yr hwn yw fy mab anwyl a ffyddlawn yn yr Arglwydd, yr hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd y sydd yng Nghrist, y modd ymhob man, ymhob eglwys, yr wyf yn dysgu.

18Fel pe bawn i ddim yn dyfod attoch, yr ymchwyddodd rhai;

19ond deuaf ar fyrder attoch, os yr Arglwydd a’i myn; a gwybyddaf nid ymadrodd y rhai sy wedi chwyddo,

20eithr eu gallu, canys nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw, eithr mewn gallu.

21Pa beth a ewyllysiwch? Ai â gwialen i mi ddyfod attoch; neu mewn cariad ac yspryd addfwyn?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help