1A gwelais angel yn disgyn o’r nef, a chanddo agoriad affwys a chadwyn fawr yn ei law:
2a chymmerodd afael yn y ddraig, yr hen sarph, yr hon yw Diafol a Satan; a rhwymodd ef am fil o flynyddoedd,
3a bwriodd ef i affwys, a chauodd a seliodd uwch ei ben, fel nad arweiniai ar gyfeiliorn y cenhedloedd mwyach hyd oni orphener y fil o flynyddoedd: ar ol hyny y mae rhaid ei ollwng yn rhydd am ychydig amser.
4A gwelais orsedd-feingciau, ac eisteddent arnynt, a barn a roed iddynt; ac eneidiau y rhai y torrasid eu pennau o herwydd tystiolaeth Iesu, ac o herwydd gair Duw, y rhai nid addolasant y bwystfil nac ei ddelw, ac ni dderbyniasant eu nod ar eu talcen nac ar eu llaw: a buant fyw, a theyrnasasant ynghyda Christ fil o flynyddoedd.
5Y lleill o’r meirw ni fuant fyw hyd oni orphenwyd y fil o flynyddoedd.
6Hwn yw’r adgyfodiad cyntaf. Gwynfydedig a sanctaidd yw’r hwn sydd a chanddo ran yn yr adgyfodiad cyntaf! Ar y rhai hyn nid yw’r ail farwolaeth a chanddi awdurdod; eithr byddant offeiriaid i Dduw ac i Grist, a theyrnasant ynghydag Ef fil o flynyddoedd.
7A phan orphenwyd y mil blynyddoedd, gollyngir Satan yn rhydd o’i garchar;
8a daw allan i arwain ar gyfeiliorn y cenhedloedd ym mhedair congl y ddaear, Gog a Magog, i’w casglu ynghyd i’r rhyfel, y rhai y mae eu rhif fel tywod y môr.
9Ac aethant i fynu ar led y ddaear, ac amgylchasant wersyll y saint a’r ddinas anwyl: a disgynodd tân o’r nef, a bwyttaodd hwynt.
10A Diafol, yr hwn oedd yn eu harwain ar gyfeiliorn, a fwriwyd i’r llyn o dân a brwmstan, lle y mae’r bwystfil hefyd a’r gau-brophwyd; a phoenir hwynt ddydd a nos yn oes oesoedd.
11A gwelais orsedd-faingc fawr wen, a’r Hwn yn Ei eistedd arni, oddiwrth wyneb yr Hwn y ffodd y ddaear a’r nef; a lle ni chafwyd iddynt.
12A gwelais y meirw, y mawrion a’r bychain, yn sefyll o flaen yr orsedd-faingc; a llyfrau a agorwyd; a llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw llyfr y bywyd; a barnwyd y meirw, o’r pethau oedd wedi eu hysgrifenu yn y llyfrau,
13yn ol eu gweithredoedd: a rhoddodd y môr y meirw oedd ynddo; a marwolaeth a Hades a roddasant y meirw oedd ynddynt; a barnwyd hwy, bob un, yn ol eu gweithredoedd.
14A marwolaeth a Hades a fwriwyd i’r llyn o dân.
15Hon, yr ail farwolaeth yw, y llyn o dân. Ac os rhyw un na chaed wedi ei ysgrifenu yn llyfr y bywyd, bwriwyd ef i’r llyn o dân.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.