I. Thessaloniaid 4 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Yn ddiweddaf, gan hyny, frodyr, attolygwn i chwi, a deisyfiwn yn yr Arglwydd Iesu, fel y derbyniasoch genym pa fodd y dylech rodio a rhyngu bodd Duw, fel hefyd yr ydych yn rhodio,

2y bo i chwi ymhelaethu fwy-fwy, canys gwyddoch pa orchymynion a roddasom i chwi trwy’r Arglwydd Iesu;

3canys hyn yw ewyllys Duw, sef eich sancteiddiad, ar ymgadw o honoch oddiwrth odineb,

4ar wybod o bob un o honoch pa fodd i feddiannu ei lestr ei hun mewn sancteiddrwydd ac anrhydedd,

5nid yngwyn trachwant fel y cenhedloedd y sydd heb adnabod Duw;

6ar beidio â throseddu na gwneuthur cam â’i frawd mewn dim, canys dialydd yw’r Arglwydd am yr holl bethau hyn, fel y rhag-rybuddiasom chwi hefyd, ac y tystiasom;

7canys ni alwodd Duw nyni i aflendid, eithr mewn sancteiddrwydd.

8Gan hyny, yr hwn sy’n gwrthod, nid dyn y mae yn ei wrthod, eithr Duw, yr Hwn sy’n rhoddi ei Yspryd Glân ynom.

9Ond am frawdgarwch nid oes genych raid wrth ysgrifenu attoch, canys chwi eich hunain ydych wedi eich dysgu gan Dduw i garu eich gilydd;

10canys gwneuthur hyn yr ydych i’r holl frodyr y sydd yn holl Macedonia,

11a chynghorwn chwi, frodyr, i ymhelaethu fwy-fwy, ac i roddi eich bryd ar fod yn llonydd, a gwneuthur eich goruchwylion eich hunain, a gweithio â’ch dwylaw, fel y gorchymynasom i chwi;

12fel y rhodioch yn weddaidd tuag at y rhai oddi allan, ac na bo arnoch eisiau dim.

13Ond nid ewyllysiwn i chwi fod heb wybod, frodyr, am y rhai sy’n huno, fel na thristaoch yn y modd y gwna’r lleill y sydd heb ganddynt obaith;

14canys os credu yr ydym y bu i’r Iesu farw ac adgyfodi; felly hefyd y rhai a hunasant yn yr Iesu, Duw a’u dwg gydag Ef.

15Canys hyn a ddywedwn wrthych chwi trwy air yr Arglwydd, Nyni y rhai byw, y sy’n cael ein gadael hyd ddyfodiad yr Arglwydd,

16ni rag-flaenwn y rhai a hunasant; canys yr Arglwydd Ei hun gyda bloedd, gyda llef arch-angel, a chydag udgorn Duw, a ddaw i wared o’r nef; a’r meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf;

17wedi hyny nyni, y rhai byw, y rhai sy’n cael ein gadael, ynghyda hwynt y’n cipir i fynu, yn y cymmylau i’r awyr, i gyfarfod â’r Arglwydd, ac felly yn wastadol ynghyda’r Arglwydd y byddwn.

18Am hyny, diddenwch eich gilydd â’r ymadroddion hyn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help