Diarhebion 18 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XVIII.

1 Chwant a gais yr ymddidolwr,

Yn erbyn pob cynghor yr ymgecra.

2Nid ymhyfryda ’r ynfyd mewn deall,

Ond yn natguddiad ei galon ei hun.

3Pan ddaeth y drygionus, daeth hefyd ddirmyg,

Ac ynghyda gwarth, waradwydd.

4 Dyfroedd dyfnion (yw) geiriau genau gwr,

Afon yn bwrlymu (yw) ffynnon doethineb.

5Derbyn gwyneb yr annuwiol, nid da (yw),

I grymmu ’r cyfiawn, mewn barn.

6Gwefusau ’r ynfyd a ddygant gynhen,

A’i enau, am bwyadau y geilw.

7Genau ’r ynfyd (sy) ddinystr iddo,

A’i wefusau (ŷnt) fagl i’w enaid.

8Geiriau ’r hustyngwr (sydd) megis cellweiriawl,

Ond hwynt-hwy a ddisgynant i’stafelloedd y bol.

9Ac a ymollyngo yn ei waith,

Brawd (yw) hwnnw i’r hunanandwyawl.

10Tŵr cadarn (yw) enw Iehofah,

Iddo y rhêd y cyfiawn, a dïogel fydd.

11Cyfoeth y goludog (yw) ei ddinas gadarn,

Ac fel mur uchel (yw), yn ei dyb ei hun.

12Cyn chwilfriwiad y dyrchefir calon gwr,

Ond cyn anrhydedd (y mae) gostyngeiddrwydd.

13A ddychwelo atteb cyn clywed o hono,

Ffolineb (fydd) hyny iddo, a gwarth.

14Yspryd gwr a gynnal ei glefyd,

Ond yr yspryd briwiedig,—pwy a’i dïoddef?

15Calon y synhwyrol a ennill wybodaeth,

A chlust y doethion a gais wybodaeth.

16Rhodd dyn a wna ffordd iddo,

A cher bron y mawrion y’i dwg ef.

17 Cyfiawn (yw) ’r cyntaf yn ei gynghaws,

Ond fe ddaw ei gyd-ddadleuwr, ac a’i hola ef.

18Dadlau a ddiwedda ’r coelbren,

A’r galluogion a wahana efe.

19Brawd sydd gyndynach na dinas gadarn,

A dadlau, fel trosol castell (y maent).

20A ei ffrwyth.

22A gaffo wraig sy’n cael peth da,

Ac a dderbyniodd ffafr gan Iehofah.

23Ymbiliau a adrodd y tlawd,

Ond y goludog a ettyb yn erwin.

24Gwr â chyfeillion (lawer), i’w ddinystr ei hun (y mae),

Ond y mae carwr a lŷn yn well na brawd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help