1Brodyr, er i ddyn ei oddiweddu gan ryw gamwedd, chwychwi, y rhai ysprydol, adgyweiriwch y cyfryw un mewn yspryd addfwyn, gan dy ystyried dy hun, rhag y’th demtier dithau.
2Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly cyflawnwch gyfraith Crist.
3Canys os tybia neb ei fod yn rhyw beth, ac efe heb fod yn ddim, twyllo ei hun y mae efe.
4Ond profed pob un ei waith ei hun, ac yna tuag at ef ei hun yn unig y bydd yr ymffrost iddo, ac nid tuag at un arall,
5canys ei faich ei hun pob un a ddwg.
6Ond cyfranned yr hwn a ddysgwyd yn y Gair â’r hwn sydd yn ei ddysgu ef, ym mhob peth da.
7Nac arweinier chwi ar gyfeiliorn; Duw ni watworir; canys pa beth bynnag a hauo dyn, hyny a fed efe hefyd;
8oblegid yr hwn sy’n hau i’w gnawd ei hun, o’r cnawd y med lygredigaeth; ond yr hwn sy’n hau i’r Yspryd, o’r Yspryd y med fywyd tragywyddol.
9Ac yn gwneuthur yr hyn sydd dda na ddigalonnwn, canys yn ei iawn bryd y medwn, os heb ddiffygio.
10Gan hyny ynte, fel y mae amser cyfaddas genym, gweithredwn yr hyn sydd dda tuag at bawb, ac yn enwedig tua’r rhai o deulu’r ffydd.
11Gwelwch â pha lythyrennau eu maint yr ysgrifennais attoch chwi â’m llaw fy hun.
12Cynnifer ag sy’n ewyllysio ymdeccau yn y cnawd, y rhai hyn sydd yn eich cymhell i amdorri arnoch, yn unig fel nad oblegid croes Crist yr erlidier hwynt;
13canys nid yw hyd yn oed y rhai yr amdorrir arnynt eu hunain yn cadw’r Gyfraith, eithr ewyllysiant i chwi amdorri arnoch, fel yn eich cnawd chwi yr ymffrostiont.
14Ond i myfi, na fydded i mi ymffrostio oddieithr ynghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy’r Hwn y croes-hoeliwyd y byd i mi, ac myfi i’r byd;
15canys amdorriad nid yw ddim, na diamdorriad; eithr creadur newydd.
16A chynnifer ag a rodiant wrth y rheol hon, tangnefedd arnynt a thrugaredd, ac ar Israel Duw.
17O hyn allan na fydded i neb beri blinder i mi; canys myfi wyf yn dwyn nodau’r Iesu yn fy nghorph.
18Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda’ch yspryd chwi, frodyr. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.