1Fe lawenycha ’r anialwch a’r anghyfanneddle;
Ac fe orfoledda ’r diffaethwch, a blodeua fel lili;
2Gan flodeuo y blodeua efe,
Ac y gorfoledda yn ddïau â gorfoledd ac â chân:
Gogoniant Lebanon a roddir iddo,
Godidowgrwydd Carmel a Sharon:
Y rhai hyn a welant ogoniant Iehofah,
Godidowgrwydd ein Duw ni.
3Cadarnhêwch y dwylaw llesg,
A’r gliniau gwegiawl, cryfhêwch hwynt;
4Dywedwch wrth y rhai aflonydd o galon, Ymgryfhêwch,
Nac ofnwch; wele eich Duw chwi!
Dïal a ddaw, attaliad Duw;
Efe a ddaw ac a fydd Iachawdwr i chwi.
5Yna yr agorir llygaid y deillion,
A chlustiau ’r byddarion a agorir.
6Yna y llamma ’r 2cloff 『1fel hŷdd』
Ac y llawen-gân tafod y mudan.
Canys 『2yn yr anialwch』 y 1tyr dyfroedd allan,
Ac afonydd yn y diffaethwch.
7Ac yr aiff yr hûd-ddwfr yn llynn,
A’r tir sychedig yn fwrlymiaid dyfroedd.
Yn nhrigfa ’r dreigiau y tŷf
Y glaswellt gyd a’r gorsen a’r frwynen.
8A bydd yno brif-ffordd,
Ac “Y ffordd sanctaidd,” y gelwir hi;
Nid aiff ar hyd-ddi un halogedig;
Ond Efe fydd gyda hwynt gan rodio ’r ffordd,
A’r ynfydion ni chyfeiliornant ynddi.
9Ni bydd yno lew,
A gormeswr y bwystfilod ni ddring iddi,
Ac nis ceir efe yno,
Eithr yno y rhodia ’r prynedigion.
10Ië, gwaredigion Iehofah a ddychwelant,
Ac a ddeuant i Tsïon â hyfryd gân;
A llawenydd tragywyddol ar eu pennau;
Hyfrydwch a llawenydd a oddiweddant hwy,
Ac ymaith y ffŷ cystudd a galar.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.