Diarhebion 29 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXIX.

1Gwr i ’w gospi (yw) caledwr (ei) war,

Mewn amrant y chwilfriwir ef, ac ni bydd meddyginiaeth.

2Pan fawrhêir y cyfiawn rai y llawenycha ’r bobl,

Ond pan lywodraetho ’r annuwiol yr ocheneidia ’r bobl.

3Gwr a garo ddoethineb a lawenhâ ei dad,

Ond a ymhyfrydo mewn putteiniaid a ddifa (ei) ddâ.

4Brenhin trwy uniondeb a sefydla ’r wlad,

Ond yr awyddus i anrhegion a ’i dinystria hi.

5Y gwr a wenieithio i ’w gymmydog,

Rhwyd a daena efe i ’w gamrau ef.

6Ynghamwedd dyn drwg (y mae) magl,

Ond y cyfiawn a lawen-gân ac a lawenycha.

7Gŵyr y cyfiawn ddadl yr anghenogion,

Yr annuwiol ni ddeall wybodaeth.

8Dynion gwatwarus a ennynant y ddinas,

Ond y doethion a dröant ymaith ddig.

9(Os) gwr doeth a ymresyma â gwr ffol,

Ac a ddigia, neu a chwardd,—ni bydd llonyddwch.

10Gwŷr gwaedlyd a gasânt y diniweid,

Ond yr uniawn a geisiant ei enaid ef.

11Ei holl lid a ollwng yr ynfyd allan,

Ond y doeth gwedi ’n a ’i dyhudda.

12Y llywydd a wrandawo ar eiriau gau,

Ei holl weinidogion (ŷnt) annuwiol.

13 hwy y cânt edrych.

17Cerydda dy fab fel y gadawo i ti lonyddwch,

Ac y rhoddo orhoffedd i ’th enaid.

18Lle nad oes gweledigaeth, diffrwyn yw ’r bobl,

Ond a gadwo ’r gyfraith, gwyn ei fyd!

19Trwy eiriau ni chyweirir caethwas;

Er deall o hono ni bydd atteb.

20A welaist ti wr brysgar yn ei eiriau?

(Y mae) gobaith am yr ynfyd rhagor am dano ef.

21A foetho ei gaethwas er yn fachgen,

Ei ddiwedd (yw), yr aiff yn anniolchgar.

22Gwr digllon a gyffry ymryson.

A’r ffyrnig a amlhâ gamwedd.

23Balchder dyn a’i gostwng ef,

Ond y gostyngedig o yspryd a gaiff anrhydedd.

24A ranno â lleidr (sy)’n casâu ei enaid ei hun,

Y llw a glyw efe,—ac ni fynega.

25Ofni rhag dynion a wna fagl,

Ond a ymddiriedo yn Iehofah a amddiffynir.

26Llawer a ymgeisiant â gwyneb llywydd,

Ond oddi wrth Iehofah (y mae) ’r penderfyniad am bawb.

27Ffieiddbeth y cyfiawn rai (yw) ’r gwr drygionus,

A ffieiddbeth yr annuwiol (yw) ’r uniawn (ei) ffordd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help