1Yr un ffunud, wragedd, byddwch yn ymddarostwng i’ch gwŷr eich hunain, fel od yw rhai yn anufudd i’r Gair, trwy ymarweddiad eu gwragedd, heb y Gair, yr enniller hwynt,
2gan weled o honynt eich ymarweddiad pur gydag ofn;
3gan y rhai bydded nid yr addurniad allanol o blethiad gwallt ac o amosodiad tlysau neu wisgiad dillad,
4eithr cuddiedig ddyn y galon, yn yr anllygradwy addurniad o’r yspryd addfwyn a llonydd, yr hwn sydd ger bron Duw yn dra-gwerthfawr;
5canys felly gynt y gwragedd sanctaidd, y rhai a obeithient yn Nuw, a addurnent eu hunain, gan ymddarostwng i’w gwŷr eu hunain;
6fel y bu i Sarah ufuddhau i Abraham, ac “Arglwydd” y’i galwai ef; i’r hon y’ch gwnaed yn blant, gan wneuthur yr hyn sydd dda, ac heb ofni neb rhyw arswyd.
7Y gwŷr, yr un ffunud, byddwch yn cyd-drigo â’ch gwragedd yn ol gwybodaeth, gan roddi i’r llestr menywaidd, megis yn wannach, anrhydedd; megis hefyd yn gyd-etifeddion gras y bywyd, fel na rwystrer eich gweddïau.
8Yn olaf, yr oll o honoch, byddwch yn unfryd, yn cyd-ymdeimlo, yn caru’r brodyr, yn drugarogion, yn ostyngedig, nid yn talu drwg am ddrwg, neu sen am sen;
9ond, yngwrthwyneb, yn bendithio, canys i hyn y’ch galwyd, fel mai bendith yr etifeddech.
10Canys
“Yr hwn sy’n chwennych hoffi bywyd,
A gweled dyddiau da,
Attalied ei dafod oddiwrth ddrwg,
A’i wefusau rhag llefaru twyll;
11A chilied oddiwrth ddrwg, a gwnaed y da;
Ceisied heddwch, a dilyned ef:
12Canys llygaid Iehofah sydd ar y cyfiawnion,
Ac Ei glustiau tua’u deisyfiad;
Ond gwyneb Iehofah sydd ar wneuthurwyr drygioni.”
13A phwy yw’r hwn a’ch dryga os am yr hyn sydd dda y byddwch eiddigus?
14Eithr os bydd hefyd i chwi ddioddef o herwydd cyfiawnder, dedwydd ydych: ond â’u hofn hwy nac ofnwch,
15ac na’ch cynhyrfer, ond yr Arglwydd, y Crist, sancteiddiwch yn eich calonnau, yn barod yn wastad am atteb i bob un a ofyno i chwi reswm am y gobaith y sydd ynoch, eithr gydag addfwynder ac ofn;
16a chennych gydwybod dda, fel yn yr hyn y lleferir yn eich erbyn, y cywilyddier y rhai sy’n goganu eich ymarweddiad da chwi yng Nghrist:
17canys gwell pan yn gwneuthur yr hyn sydd dda, os ewyllysia ewyllys Duw,
18ddioddef o honoch, na phan yn gwneuthur drwg; canys Crist hefyd un waith am byth am bechodau a ddioddefodd, un cyfiawn er anghyfiawnion, fel y’n dygai ni at Dduw, wedi Ei farwolaethu yn wir yn y cnawd, ond Ei fywhau yn yr yspryd:
19yn yr hwn hefyd i’r ysprydion yngharchar yr aeth a phregethodd,
20y rhai fuant anufudd gynt pan ddisgwyliai hir-ymaros Duw yn nyddiau Noe, tra y darperid yr arch, i’r hon ychydig, hyny yw, wyth enaid,
21a aeth ac a achubwyd trwy ddwfr; yr hwn ddwfr, yn yr atteb-lun, sydd yn awr yn eich cadw chwi, sef bedydd, nid dodi ymaith fudreddi’r cnawd, eithr holiad cydwybod dda tuag at Dduw, trwy adgyfodiad Iesu Grist,
22yr Hwn sydd ar ddeheulaw Duw, wedi myned i’r nef, ac mewn darostyngiad Iddo y rhoddwyd angylion ac awdurdodau a galluoedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.