1(Psalm) o eiddo Dafydd, pan newidiodd efe ei bwyll ger bron Abimelech, ac y gyrrodd hwn ef ymaith, ac yr ymadawodd yntau.
2Bendithiaf Iehofah bob amser,
Beunydd (y bydd) Ei fawl Ef yn fy ngenau;
3Ag Iehofah yr ymbil fy enaid,
Clyw’r gorthrymmedig rai (hyn), a llawenychant:
4Mawrygwch Iehofah gyda mi,
A dyrchafwn Ei enw Ef ynghŷd.
5Ceisiais Iehofah, a gwrandawodd arnaf,
Ac o’m holl ofn yr achubodd fi:
6 Edrychasant atto Ef ac ymsiriolasant,
A’u gwynebau, nid gwrido a wnaethant!
7Y truan hwn a lefodd, ac Iehofah a glybu,
Ac o’i holl gyfyngderau a’i gwaredodd ef.
8Gwersylla angel Iehofah o amgylch y rhai a’i hofnont Ef,
Au a’u rhyddhâ!
9Profwch a gwelwch mor dda (yw) Iehofah!
Dedwydd y gwr a ymddiriedo ynddo Ef!
10Ofnwch Iehofah, Ei saint Ef,
Canys nid dim eisiau (sydd) i’r rhai a’i hofnont Ef!
11Y llewod ieuaingc fydd mewn angen, ac â newyn arnynt,
Ond y sawl a geisiont Iehofah fydd heb arnynt eisiau dim sy’ dda!
12Deuwch, feibion, gwrandêwch arnaf fi,
Ofn Iehofah a ddysgaf i chwi:
13Pwy (yw) ’r gwr a chwennych fywyd,
Gan garu (hir) ddyddiau, i weled daioni?
14—Cadw dy dafod rhag drwg,
A’th wefusau rhag traethu twyll;
15Cilia oddi wrth ddrwg, a gwna dda,
Ceisia heddwch, a thaer-ddilyn ef!—
16Llygaid Iehofah (ŷnt) tua’r cyfiawn rai,
A’i glustiau tua ’u llefain hwynt:
17—Gwyneb Iehofah (sydd) ar wneuthurwyr drygioni,
I dorri oddi ar y ddaear eu coffa hwynt:—
18Llefa (’r cyfiawn rai), ac Iehofah a glyw,
Ac o’u holl gyfyngderau a’u hachub hwynt;
19Agos (yw) Iehofah i’r drylliedig o galon,
A’r rhai briwedig o yspryd a weryd Efe;
20Aml ddrygau (a gaiff) y cyfiawn,
Ond oddi wrthynt oll yr achub Iehofah ef,
21Yr Hwn a geidw ei holl esgyrn,
Nid yr un o honynt a dorrir.
22Lladd yr annuwiol a wna drygioni,
A chasawyr y cyfiawn a dalant y gosp:
23Rhyddâ Iehofah enaid Ei weision,
Ac nid talu ’r gosp a wna ’r holl rai a ymddiriedont ynddo Ef!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.