1Nid i ni, O Iehofah, nid i ni,
Ond i’th enw Dy hun dyro ogoniant,
O herwydd Dy drugaredd, o herwydd Dy ffyddlondeb!
2Pa ham y dywedai’r cenhedloedd,
“Pa le, attolwg, (y mae) eu Duw hwynt?”
3Ein Duw ni (sydd) yn y nefoedd,
Yr oll a fynno a wna Efe!
4Eu delwau hwy (ŷnt) arian ac aur,
Gwaith dwylaw dynion;
5Genau (sydd) ganddynt,—ond ni lefarant,
Llygaid ganddynt,—ond ni welant,
6Clustiau ganddynt,—ond ni chlywant,
Trwyn ganddynt,—ond nid aroglant;
7Eu dwylaw,—ond ni theimlant.
Eu traed,—ond ni cherddant;
Ni leisiant â’u gwddf:
8Tebyg iddynt fyddo eu gwueuthurwyr,
(A) phob un a ymddiriedo ynddynt!
9 nefoedd i Iehofah,
Ond y ddaear a roes Efe i feibion dynion!
17Nid y meirw a foliannant Iah,
Ac nid yr holl rai a ddisgynont i ddistawrwydd,
Eithr nyni a fendithiwn Iah,
O’r pryd hyn ac hyd dragywyddoldeb!
18Molwch Iah!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.