1Pan eisteddych i fwytta gyda llywodraethwr,
Gan ystyried ystyria yr hyn sydd o’th flaen:
2Gosodi gyllell at dy wddf,
Os perchen chwant (a fyddi) di:
3Na chwennych ei ddanteithion ef,
Canys hwnnw (sydd) fwyd twyllodrus!
4Nac ymflina i ymgyfoethogi,
Dy gallineb gad heibio:
5A beri di i’th lygaid ehedeg arno — ac yntau nid yna?
Canys gan wneud y gwna iddo ei hun adennydd,
Fel eryr a’r sy’n ehedeg i’r nefoedd.
6Na fwytta fara y drwg (ei) lygad,
Ac na chwennych ei ddanteithion ef;
7Canys fel un yn cyfrif y pris, felly efe yn ei enaid,
“Bwytta ac ŷf,” a ddywaid efe wrthyt,
A’i galon nid (yw) gyda thi;
8Dy dammaid a fwyttëaist a fwri i fynu,
A chollaist dy eiriau melus.
9I glustiau ’r ynfyd na lefara,
Canys dirmyga ddoethineb dy ymadrodd.
10Na symmud y terfyn gynt,
Ac i feusydd yr amddifaid na ddos;
11Canys eu Dïalydd cam (sydd) nerthol,
Efe a ddadleu eu dadl â thi.
12Dwg dy galon at gerydd,
A’th glustiau at eiriau gwybodaeth.
13Nac attal gerydd oddi wrth fachgen,
Os curi ef â gwialen ni threnga;
14Tydi, â gwialen y’i curi,
A’i enaid ef, rhag annwn y’i hachubi.
15Fy mab, os doeth (fydd) dy galon,
Llawen fydd fy nghalon—ïe myfi,
16A gorfoledda fy arennau,
Pan draetho dy wefusau gyfiawnder.
17Na chynfigenned dy galon wrth bechaduriaid,
Yn hytrach, yn ofn Iehofah (bydded hi) beunydd;
18Canys y mae amser dyfodol,
A’th obaith ni thorrir ymaith.
19Clyw, dydi fy mab, a bydd ddoeth,
Ac uniona dy galon yn y ffordd;
20Na fydd ymysg potwyr gwin,
Ymysg y gwastraffus o’u corph eu hun,
21Canys y potiwr a’r gwastraffus a dlodir,
Ac â charpiau yr ymwisg hepian.
22Gwrando ar dy dad, yr hwn a’th genhedlodd,
Ac na ddiystyra (hi) o herwydd heneiddio o’th fam.
23Ffyddlondeb pryn, ac na werth,
Doethineb, a cherydd, a phwyll.
24Gan orfoleddu y gorfoledda tad y cyfiawn,
A genhedlo (un) doeth a lawenycha ynddo,
25Fe lawenycha dy dad a’th fam,
A gorfoledda ’r hon a esgorodd arnat.
26Dyro, fy mab, dy galon i mi,
A’th lygaid, yn fy ffyrdd i ymhyfrydont;
27Canys pwll dwfn (yw) puttain,
A phydew cyfyng (yw) ’r estrones,
28Ië, hyhi, fel lleidr y cynllwyna,
A’r troseddwyr ymysg dynion a chwannega hi.
29Gan bwy (y mae) “Oh” — gan bwy, “Och,”
Gan bwy, ymrysonau,—gan bwy, feddylied,—gan bwy welïau heb achos,—
Gan bwy, dywyll-gochni ’r llygaid?
30—Gan yr arhoswr yn hwyr wrth y gwin,
Gan y rhai a ant i brofi ’r gwin cymmysgedig.
31Nac edrych ar y gwin o herwydd mai coch yw,
O herwydd rhoddi o hono ei forwys yn y cwppan,
(A) myned o hono i lawr yn uniongyrchol:
32Ei ddiwedd (yw), fel y sarph y brath,
Ac fel y fad felen yr archolla;
33Dy lygaid a edrychant ar estronesau,
A’th galon a draetha anfad bethau;
34 A byddi fel cysgwr ynghanol y môr,
Ac fel cysgwr ymhen yr hwylbren:
35“Curasant fi,—ni ’m poenir,
Pwyasant fi,—nid adwaen (mo hono),—
Pan gyfodwyf y chwannegaf i ’w geisio etto.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.