II. Petr 3 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Hwn yn awr, frodyr, yr ail epistol, yr wyf yn ei ysgrifenu attoch, yn y rhai cyffroi eich meddwl puraidd yr wyf trwy ddwyn ar gof i chwi,

2i gofio’r geiriau a rag-ddywedwyd gan y sanctaidd brophwydi, a gorchymyn yr Arglwydd ac Achubwr trwy eich apostolion;

3a hyn yn gyntaf yn adnabyddus genych, sef y daw yn y dyddiau diweddaf watwarwyr gyda gwatwariad, ac yn ol eu chwantau eu hunain y rhodiant;

4ac yn dywedyd, Pa le y mae addewid Ei ddyfodiad, canys er’s y bu i’r tadau huno, pob peth sy’n parhau fel hyn o ddechreuad y creadigaeth?

5Canys anadnabyddus ganddynt yw hyn, o’u gwirfodd, sef, Y nefoedd oedd er ys talm, a’r ddaear wedi ei chydgyssylltu allan o’r dwfr, a thrwy’r dwfr, trwy air Duw;

6trwy y rhai, am y byd a oedd y pryd hwnw, a dwfr yn llifo drosto, y darfu;

7ond y nefoedd y sydd yr awr hon, ac y ddaear, trwy’r un gair, y’u hystorwyd i dân, yn cael eu cadw erbyn dydd y farn a distryw’r anwir ddynion.

8Ond yr un peth hwn na fydded yn anadnabyddus genych, anwylyd, fod un dydd gyda’r Arglwydd fel mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd fel un dydd.

9Nid oedi Ei addewid y mae’r Arglwydd, fel y mae rhai yn cyfrif oed, eithr hir-ymarhöus yw tuag attoch, heb ewyllysio i neb rhyw rai fyned ar goll, eithr i bawb ddyfod i edifeirwch.

10Ond daw dydd yr Arglwydd fel lleidr, yn yr hwn y nefoedd gyda thwrf a ant heibio, a’r elfennau a losgir ac a ddattodir, a’r ddaear a’r gweithioedd ynddi a lwyr-losgir.

11Y pethau hyn i gyd i’w cael eu dattod fel hyn, pa fath ddynion a ddylech chwi fod mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb,

12gan ddisgwyl a phrysuro dyfodiad dydd Duw, o herwydd yr hwn y nefoedd, gan fod ar dân a ddattodir; a’r elfennau, gan losgi, a doddir?

13Ond nefoedd newydd a daear newydd, yn ol ei addewid Ef, a ddisgwyliwn, yn y rhai y mae cyfiawnder yn cartrefu.

14O herwydd paham, anwylyd, a’r pethau hyn yn eu disgwyl genych, byddwch ddyfal ar eich cael yn ddifrycheulyd ac yn ddianaf yn Ei olwg Ef mewn tangnefedd:

15ac hir-ymaros ein Harglwydd cyfrifwch yn iachawdwriaeth, fel y bu hefyd i’n brawd anwyl, Paul,

16yn ol y doethineb a roddwyd iddo, ysgrifenu attoch; fel hefyd yn ei holl epistolau, gan lefaru ynddynt am y pethau hyn, yn y rhai y mae rhai pethau anhawdd eu deall, y rhai y mae’r annysgedigion a’r ansefydlogion yn eu gwyrdroi, fel yr ysgrythyrau eraill hefyd, i’w dinystr eu hunain.

17Chwychwi, gan hyny, anwylyd, gan ragwybod hyn, gwyliwch rhag, gan gael eich dwyn ymaith gyda chyfeiliornad yr annuwiolion, gwympo o honoch oddiwrth eich sefydlogrwydd eich hunain;

18ond cynnyddwch yng ngras a gwybodaeth ein Harglwydd ac Achubwr Iesu Grist. Iddo Ef y bo’r gogoniant yn awr ac yn dragywydd. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help