1Ac yr ymeifl saith o wragedd mewn un gwr yn y dydd hwnnw, gan ddywedyd,
Ein bara ein hun a fwyttâwn,
A’n dillad ein hun a wisgwn;
Yn unig galwer dy enw di arnom ni,
Cymmer ymaith ein gwarth ni.
2Yn y dydd hwnnw bydd Blaguryn Iehofah
Yn brydferthwch ac yn ogoniant,
A ffrwyth y ddaear yn ardderchowgrwydd ac yn addurn
I ddiancedigion Israel.
3A bydd am yr hwn a adewir yn Tsïon,
Ac a weddillir yn Ierwshalem,
Sanct y gelwir ef,
(Sef) pob un a’r a’sgrifenir ym mhlith y rhai byw yn Ierwshalem:
4Pan ddarffo i’r Arglwydd olchi ymaith fudreddi merched Tsïon,
A 3charthu 1gwaed 2Ierwshalem o’i chanol,
Mewn yspryd barn, ac mewn yspryd llosgfa;
5Yna y crea Iehofah ar bob trigfa mynydd Tsïon,
Ac ar ei holl gymmanfaoedd sanctaidd hi,
Gwmmwl y dydd a mŵg,
A disglaerdeb tân fflamllyd y nos;
Canys ar yr oll y Gogoniant (a fydd) yn orchudd;
6Ac yn babell y bydd hi, yn gysgod y dydd rhag gwres,
Ac yn noddfa, ac yn lloches rhag tymestl a rhag gwlaw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.