1Psalm o foliant.
Codwch udgorn-floedd i Iehofah, yr holl ddaear,
2Gwasanaethwch Iehofah mewn llawenydd,
Deuwch o’i flaen Ef â llawen-gân;
3Gwybyddwch mai Iehofah, Efe (sy) Dduw,
Mai Efe a’n gwnaeth, ac mai eiddo Ef nyni,
Ei bobl (ŷm) a defaid Ei borfa!
4Deuwch i’w byrth Ef â dïolch,
I’w gynteddau â mawl;
Dïolchwch Iddo, bendithiwch Ei enw,
5Canys da (yw) Iehofah, yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd,
Ac at genhedlaeth a chenhedlaeth Ei ffyddlondeb!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.