1I’r blaengeiniad tros yr offer tannau. Ar yr islais. Psalm o eiddo Dafydd.
2O Iehofah, nid yn Dy ddig bydded it’ fy nghospi,
Ac nid yn Dy lidiowgrwydd bydded it’ fy ngheryddu!
3Bydd raslawn wrthyf, Iehofah, canys nychu yr wyf fi,
Iachâ fi, Iehofah, canys cythruddwyd fy esgyrn!
4Ac fy enaid a gythruddwyd,
A Thydi, Iehofah, pa hŷd —?
5Dychwel, Iehofah, rhyddhâ fy enaid,
Gwared fi er mwyn Dy radlonedd!
6Canys nid yn angau (y mae) coffa am Danat,
Yn annwn pwy a ’th folianna Di?
7Blinedig wyf trwy fy ochain,
Peri i ’m gorweddfa nofio yr wyf bob nos,
A fy nagrau fy ngwely yr wyf yn ei fwydo;
8Ymgrybychu trwy ofid a wnaeth fy llygad,
Heneiddiodd o herwydd fy holl elynion.
9Ciliwch oddi wrthyf, holl weithredwyr anwiredd!
Canys clywodd Iehofah lef fy wylofain:
10Clywodd Iehofah fy ymbil,
Iehofah a dderbyn fy ngweddi,
11Cywilyddir, a mawr-gythruddir fy holl elynion,
Dychwelir, cywilyddir hwynt mewn amrant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.