1Yn y flwyddyn y bu farw ’r brenhin Wzziah y gwelais Iehofah yn eistedd ar orsedd-faingc uchel a dyrchafedig, ai odre yn llenwi ’r deml;
2Seraphiad (oedd) yn sefyll uwch Ei ben Ef; chwech adain ydoedd i bob un; â dwy y cuddiai ei wyneb, ac â
3dwy y cuddiai ei draed, ac â dwy yr ehedai. A llefodd y naill wrth y llall, a dywedodd,
Sanct, Sanct, Sanct, Iehofah y lluoedd,
Llawn yw’r holl ddaear o’i ogoniant Ef.
4A symmudwyd pyst y rhiniogau gan lef yr hwn oedd yn llefain, a’r tŷ a lanwyd gan fŵg.
5A dywedais Gwae fi; aethum yn fud o herwydd gwr halogedig (ei) wefusau (ydwyf) fi, ac ym mysg pobl halogedig o wefusau, yr wyf fi yn trigo; canys y Brenhin, Iehofah y lluoedd,『2fy llygaid』a 1welsant.
6Yna yr ehedodd attaf un o’r Seraphiaid, ac yn ei law farworyn;
7mewn gefail y cymmerodd efe ef oddi ar yr allor, a rhoes ef i gyffwrdd â ’m genau, a dywedodd;
Wele, cyffyrddodd hwn â ’th wefusau,
Ymadawodd dy anwiredd, a thros dy bechod y gwnaethpwyd cymmod.
8Clywais hefyd lef Iehofah yn dywedyd, Pwy a anfonaf? a phwy a aiff drosom ni, a mi a ddywedais Wele fi, anfon fi.
9Ac efe a ddywedodd; —
Dos a dywed wrth y bobl hyn;
Clywch gan glywed, ond ni ddeallwch;
A gwelwch gan weled, ond ni wybyddwch.
10Brasâ galon y bobl hyn,
A’u clustiau trymhâ, a’u llygaid cau,
Rhag iddynt weled â’u llygaid, ac â’u clustiau glywed,
Ac â’u calon ddeall, a dychwelyd, a’u meddyginiaethu.
11A dywedais, Pa hyd, Iehofah? Ac efe a ddywedodd; —
Hyd oni anrheithier dinasoedd, (fel y bônt) heb drigiannydd,
A thai (fel y bônt) heb ddyn,
Ac y 2gadawer『1y wlad』yn gwbl anghyfannedd:
12Ac hyd oni bellhâo Iehofah ddynion,
Ac yr amlhâer y gwragedd gadawedig ynghanol y wlad.
13Ac er y bo etto ynddi ddegwm,
Hyn yn chwanegol a fydd i’w ddistrywio.
Ond fel y brinwydden a’r dderwen, y rhai er bwrw (eu dail, y mae) eu bon-cyff ganddynt,
(Felly) hâd sanctaidd (fydd) ei bon-cyff hi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.