1Yr amser hwnw yr aeth yr Iesu ar y Sabbath trwy’r maesydd ŷd; ac ar Ei ddisgyblion yr oedd chwant bwyd, a dechreuasant dynnu tywys a bwytta.
2A’r Pharisheaid, gan weled, a ddywedasant Wrtho, Wele, Dy ddisgyblion sy’n gwneud yr hyn nad yw gyfreithlon ei wneuthur ar ddydd Sabbath.
3Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch pa beth a wnaeth Dafydd, pan yr oedd chwant bwyd arno, a’r rhai gydag ef;
4y modd yr aeth i mewn i dŷ Dduw, a bara’r gosodiad ger bron a fwyttaodd efe, yr hwn nid cyfreithlon ydoedd iddo ei fwytta, nac i’r rhai gydag ef, ond i’r offeiriaid yn unig?
5Neu, oni ddarllenasoch yn y Gyfraith, fod yr offeiriaid ar y Sabbathau, yn y deml, yn halogi’r Sabbath, ac eu bod yn ddieuog?
6Ond dywedaf wrthych, Yr hyn sy fwy na’r deml, sydd yma.
7Ond pe gwybuasech pa beth yw,
“Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth,”
8ni chondemniasech y rhai dieuog, canys Arglwydd y Sabbath yw Mab y Dyn.
9Ac wedi myned oddi yno, daeth i’w sunagog hwynt;
10ac wele, dyn a llaw ganddo wedi gwywo: a gofynasant Iddo, Ai cyfreithlon ar y Sabbath yw iachau? fel y cyhuddent Ef.
11Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddyn fydd o honoch, a chanddo un ddafad, ac o syrth hon ar y Sabbath i ffos, nad ymeifl ynddi, a’i chodi?
12Pa faint, ynte, y rhagora dyn ar ddafad? Felly cyfreithlon ar y Sabbath yw gwneuthur yn dda.
13Yna y dywedodd wrth y dyn, Estyn dy law; ac estynodd efe hi, ac adferwyd hi yn iach fel y llall.
14Ac wedi myned allan, y Pharisheaid a gymmerasant gynghor yn Ei erbyn, pa fodd y difethent Ef.
15A’r Iesu gan wybod, a giliodd oddiyno; ac Ei ganlyn a wnaeth llawer,
16ac iachaodd hwynt, a dwrdiodd hwynt oll na wnaent Ef yn amlwg;
17fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Eshaiah y prophwyd, gan ddywedyd,
18“Wele Fy ngwas yr hwn a ddewisais,
Fy Anwylyd, yn yr Hwn y boddlonwyd Fy enaid:
Gosodaf Fy Yspryd Arno,
A barn a fynega Efe i’r Cenhedloedd.
19Nid ymryson Efe, na gwaeddi;
Ac ni chlyw neb yn y llydanfeydd Ei lais Ef.
20Corsen ysig ni ddryllia Efe,
A llin yn mygu ni ddiffydd,
Hyd oni ddygo farn allan i fuddugoliaeth.
21Ac yn Ei enw y Cenhedloedd a obeithiant.”
22Yna y dygpwyd Atto un cythreulig, dall a mud; ac iachaodd Efe ef, fel y bu i’r mudan lefaru a gweled:
23a synnodd yr holl dorfeydd, a dywedasant, Ai hwn yw Mab Dafydd?
24Ond y Pharisheaid, pan glywsant, a ddywedasant, Hwn, nid yw yn bwrw allan y cythreuliaid, ond trwy Beelzebub, pennaeth y cythreuliaid.
25A chan wybod eu meddyliau, dywedodd Efe wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun a anghyfaneddir; a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni saif:
26ac os Satan a fwrw allan Satan, yn ei erbyn ei hun yr ymrannodd: pa wedd, gan hyny, y saif ei deyrnas?
27Ac os Myfi wyf trwy Beelzebub yn bwrw allan y cythreuliaid, eich meibion chwi, trwy bwy y maent yn bwrw allan? Am hyny, hwy a fyddant eich barnwyr.
28Ond os Myfi wyf trwy Yspryd Duw yn bwrw allan y cythreuliaid, yna y daeth teyrnas Dduw attoch.
29Neu pa fodd y dichon neb fyned i mewn i dŷ y cadarn ac yspeilio ei dda ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn? ac yna yr yspeilia ei dŷ ef.
30Yr hwn nad yw gyda Mi, yn Fy erbyn y mae; ac yr hwn nad yw’n casglu gyda Mi, gwasgaru y mae.
31Am hyny y dywedaf wrthych, Pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion, ond y cabledd yn erbyn yr Yspryd Glân ni faddeuir:
32a phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y Dyn, maddeuir iddo; ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Yspryd Glân, ni faddeuir iddo, nac yn yr einioes hon nac yn yr hon a fydd.
33Naill ai gwnewch y pren yn dda a’i ffrwyth yn dda, neu gwnewch y pren yn llygredig a’i ffrwyth yn llygredig, canys wrth y ffrwyth yr adwaenir y pren.
34Eppil gwiberod, pa wedd y gellwch lefaru pethau da, a chwi yn ddrwg, canys o orlawnder y galon y mae’r genau yn llefaru?
35Y dyn da, o’r trysor da, a ddwg allan bethau da; a’r dyn drwg, o’r trysor drwg, a ddwg allan bethau drwg.
36A dywedaf wrthych, Pob ymadrodd segur yr hwn a adrodd dynion, rhoddant gyfrif am dano yn nydd y farn,
37canys wrth dy eiriau y’th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau y’th gondemnir.
38Yna yr attebodd rhai o’r Ysgrifenyddion a’r Pharisheaid Iddo, gan ddywedyd, Athraw, ewyllysiem weled arwydd Genyt.
39Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, Cenhedlaeth ddrwg a godinebus, arwydd a gais hi; ac arwydd ni roddir iddi,
40ond arwydd y prophwyd Ionah: canys fel yr oedd Ionah ym mol y morfil dridiau a thair nos, felly y bydd Mab y Dyn ynghalon y ddaear dridiau a thair nos.
41Gwŷr Ninefe a gyfodant yn y farn gyda’r genhedlaeth hon ac a’i condemniant hi, canys edifarhasant wrth bregethiad Ionah, ac wele, mwy nag Ionah yma.
42Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i condemnia hi, canys daeth o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Shalomon, ac wele, mwy na Shalomon yma.
43A phan fo’r yspryd aflan wedi myned allan o ddyn, rhodia trwy leoedd diddwfr, gan geisio gorphwysdra, ac nid yw yn ei gael:
44yna y dywaid, Dychwelaf i’m tŷ o’r lle y daethum allan; ac wedi y delo, y mae yn ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a’i drwsio.
45Yna yr â ac a gymmer gydag ef ei hun saith yspryd eraill, gwaeth nag ef ei hun; ac wedi myned i mewn cyfanneddant yno; a gwneir cyflwr olaf y dyn hwnw yn waeth na’i gyntaf: felly y bydd i’r genhedlaeth ddrwg hon hefyd.
46Ac Efe yn llefaru wrth y torfeydd, wele, Ei fam a’i frodyr oeddynt yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan ag Ef.
47A dywedodd rhyw un Wrtho, Wele, Dy fam a’th frodyr, allan y safant yn ceisio ymddiddan â Thi.
48Ac Efe gan atteb, a ddywedodd wrth yr hwn a ddywedasai Wrtho, Pwy yw Fy mam?
49A phwy yw Fy mrodyr? Ac wedi estyn Ei law tuag at Ei ddisgyblion, dywedodd, Wele Fy mam a’m brodyr:
50canys pwy bynnag a wnelo ewyllys Fy Nhad yr Hwn sydd yn y nefoedd, efe, Fy mrawd I, a’m chwaer, ac Fy mam yw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.