1Cân y graddau. Eiddo Dafydd.
“Pe nad Iehofah a fuasai gyda ni,”
Dyweded Israel, attolwg,
2“Pe nad Iehofah a fuasai gyda ni
Wrth gyfodi, yn ein herbyn, o ddynion;
3Yna nyni yn fyw a lyngcasent hwy,
Wrth ennynu o’u llid i’n herbyn;
4Yna y dyfroedd a lifasent drosom,
Y ffrwd a aethai dros ein henaid;
5Yna yr aethai dros ein henaid
Y dyfroedd rhyferthwyawl!”
6Bendigedig (fo) Iehofah,
Yr Hwn ni ’n rhoes yn ysglyfaeth i’w dannedd hwynt!
7Ein henaid, fel aderyn, a ddïangodd o fagl yr helwyr,
—Y fagl a dorwyd, a nyni a ddïanghasom!
8Ein cymmorth (sydd) yn enw Iehofah
Gwneuthurwr y nefoedd a’r ddaear!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.