1Paul a Silfanus a Thimotheus, at eglwys y Thessaloniaid yn Nuw Dad a’r Arglwydd Iesu Grist: gras i chwi a thangnefedd.
2Diolch yr ydym i Dduw yn wastadol drosoch chwi oll,
3gan wneuthur coffa am danoch yn ein gweddïau, gan gofio yn ddibaid waith eich ffydd chwi, a llafur eich cariad, ac ymaros eich gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist, ger bron ein Duw a Thad;
4gan wybod, frodyr anwyl gan Dduw, eich etholedigaeth,
5na fu i’n Hefengyl ddyfod attoch mewn gair yn unig, eithr hefyd mewn gallu, ac yn yr Yspryd Glân, ac mewn sicrwydd mawr, fel y gwyddoch pa fath rai a fuom i chwi er eich mwyn,
6a chwi a aethoch yn efelychwyr i ni ac i’r Arglwydd, wedi derbyn y Gair mewn gorthrymder lawer,
7gyda llawenydd yr Yspryd Glân, fel yr aethoch yn siampl i’r rhai oll sy’n credu ym Macedonia ac yn Achaia:
8canys oddiwrthych chwi y seiniodd Gair yr Arglwydd, nid yn unig ym Macedonia ac Achaia, eithr ym mhob man eich ffydd tuag at Dduw a aeth allan, fel nad oes arnom raid i lefaru dim;
9canys hwy eu hunain sy’n mynegi am danom ni pa ryw ddyfodiad i mewn a gawsom attoch, a pha fodd y troisoch at Dduw oddiwrth yr eulunod i wasanaethu Duw byw a gwir,
10ac i ddisgwyl am Ei Fab o’r nefoedd, yr Hwn a gyfododd Efe o’r meirw, Iesu, yr hwn sydd yn ein gwaredu o’r digofaint sydd yn dyfod.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.