Psalmau 66 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

LXVI

1I’r blaengeiniad. Cân. Psalm.

Llawen-floeddiwch i Dduw, yr holl ddaear,

2Cenwch ogoniant Ei enw,

Gwnewch Ei foliant yn ogoneddus,

3Dywedwch wrth Dduw, “Mor ofnadwy Dy weithredoedd,

O herwydd mawredd Dy nerth gwenieithia Dy elynion Wrthyt,

4Yr holl ddaear a warogaethant i Ti,

A tharawant y tannau i’th enw:”

5Deuwch a gwelwch weithredoedd Duw,

Ofnadwy yr hyn a orug Efe i feibion dynion,

6Trôdd fôr yn sychdir,

Trwy’r afon yr aeth (dynion) ar draed,

—Yna y llawenychasom ynddo Ef; —

7Llywodraetha trwy Ei gadernid yn dragywydd,

Ei lygaid, ar y cenhedloedd yr edrychant allan,

Y gwrthgilwyr a beidiant âg ymddyrchafu. Selah.

8Bendithiwch, O bobloedd, ein Duw ni,

A pherwch glywed llefain Ei fawl,

9Yr Hwn a osododd ein henaid mewn bywyd,

Ac ni adawodd i’n traed siglo,

10Canys profaist ni, O Dduw,

Coethaist ni fel coethi arian;

11Dygaist ni i’r rhwyd,

Gosodaist lwyth trwm ar ein llwynau;

12Marchogaeth o ddynion ar ein pennau a beraist,

Daethom i mewn i’r tân ac i’r dyfroedd;

Ond dygaist ni allan i orlawnder.

13Deuaf i’th dŷ âg offrymmau,

Talaf i Ti fy addunedau,

14Y rhai a adroddodd fy ngwefusau,

Ac a ddywedodd fy ngenau yn fy nghyfyngder;

15Offrymmau breision a offrymmaf i Ti,

Ynghyda llosgiad hyrddod,

Aberthaf ychen ynghyda bychod. Selah.

16Deuwch, gwrandewch, a mynegaf, O’r rhai oll sy’n ofni Duw,

Yr hyn a wnaeth Efe i’m henaid,—

17Arno Ef â’m genau y gelwais,

A chlodforedd (oedd) ar fy nhafod;

18Ped ar ddrygioni y syllaswn yn fy nghalon,

Ni wrandawsai Duw;

19Ond gwrandawodd Duw,

Daliodd sulw ar lais fy ngweddi.

20Bendigedig (fyddo) Duw,

Yr Hwn ni roddodd ymaith fy ngweddi

Na’i drugaredd Ef oddi wrthyf finnau!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help