1Gwrandêwch arnaf fi, ddilynwŷr cyfiawnder,
Y rhai (sy) ’n ceisio Iehofah;
Edrychwch ar y graig y’ch naddwyd (o honi).
Ac ar geudod yr ogof y’ch cloddiwyd (o honi).
2Edrychwch ar Abraham eich tad,
Ac ar Sarah a’ch esgorodd;
Canys ei hunan y gelwais ef,
A bendithiais ef, ac amlhëais ef.
3Canys fe gysura Iehofah Tsïon,
Cysura ei holl anghyfanneddleoedd hi,
Ac Efe a wna ei hanialwch hi fel Eden,
A’i diffaethwch fel gardd Iehofah:
Gorfoledd a llawenydd a geir ynddi,
Rhoddiad diolch, a llais cân.
4Gwrandêwch arnaf Fi, bobloedd;
A chenhedloedd, â Mi clust-ymwrandêwch.
Canys cyfraith oddi wrthyf Fi a aiff allan,
A’m barn I yn oleuni ’r bobloedd a sefydlaf.
5Agos yw Fy nghyfiawnder, myned allan y mae Fy Iachawdwriaeth,
A’m braich y bobloedd a farnant.
Wrthyf Fi y mae ’r tiroedd pell yn disgwyl,
Ac am Fy mraich y gobeithiant.
6Dyrchefwch tua ’r nefoedd eich llygaid,
Ac edrychwch ar y ddaear isod;
Canys y nefoedd, fel mŵg, a ddiflannant,
A’r ddaear, fel dilledyn, a heneiddia,
A’i phreswylwŷr yr un modd a fyddant meirw;
Ond Fy iachawdwriaeth I yn dragywydd a fydd,
A’m cyfiawnder ni ddistrywir.
7Gwrandêwch arnaf, y rhai a adwaenoch gyfiawnder,
Y bobl (ag y mae) Fy nghyfraith yn eu calon,
Nac ofnwch waradwydd dynionach,
A rhag eu difenwad nac arswydwch.
8Canys, fel dilledyn, y bwytty’r gwyfyn hwynt,
Ac, fel gwlan, yr ysa’r pryf hwynt,
Ond Fy nghyfiawnder I yn dragywydd a fydd,
A’m hiachawdwriaeth yn oes oesoedd.
9Deffro, deffro, gwisg nerth, o fraich Iehofah,
Deffro fel yn y dyddiau gynt, yr oesoedd hên,
Onid Tydi (yw) ’r hwn a dorraist Rahab, ac a archollaist y ddraig?
10Onid Tydi (yw) ’r hwn a sychaist y môr, dyfroedd y dyfnder mawr,
Yr hwn a wnaethost ddyfnderoedd y môr yn ffordd i fyned drwodd i’th adbrynedigion?
11Yr un modd rhyddedigion Iehofah a ddychwelant,
Ac a ddeuant i Tsïon â llawen-gân,
A llawenydd tragywyddol ar eu pennau;
Gorfoledd a llawenydd a gânt hwy,
Ac ymaith y ffŷ gofid a griddfan.
12Myfi, Myfi (yw) ’r hwn a’ch diddana chwi:
Pwy (wyt) ti fel yr ofnit ddynionach a drengant,
A mab dyn (yr hwn) a 2wneir (fel) 1 glaswelltyn,
13Ac yr anghofit Iehofah dy Wneuthurwr,
Yr Hwn a estynodd y nefoedd, ac a seiliodd y ddaear,
Ac yr arswydit beunydd bob dydd
Rhag angerdd llid y gorthrymmydd,
Fel ped (fai) yn barod i ddinystrio?
Ond pa le (y mae) angerdd llid y gorthrymmydd?
14Brysio y mae dy ostyngwr i beri dattodiad;
Ac ni threnga (’r carcharor) hyd lwyr-ddistryw,
Ac ni phalla ei fara ef:
15Canys Myfi Iehofah (yw) dy Dduw di,
Yn tawelu ’r môr er rhuo o’i donnau;
Iehofah y lluoedd (yw) Ei enw.
16A gosodais Fy ngeiriau yn dy enau,
Ac ynghysgod Fy llaw y’th orchuddiais,
I estyn y nefoedd ac i seilio ’r ddaear,
Ac i ddywedyd wrth Tsïon, Fy mhobl tydi (ydwyt).
17Ymddeffro, ymddeffro, cyfod, Ierwshalem,
Yr hon a yfaist o law Iehofah gwppan angerdd Ei lid Ef,
Gwaddod cwppan honciad a yfaist, a sugnaist.
18Nid (oes) arweinydd iddi o’r holl feibion a esgorodd,
Ac nid (oes) a ymaflo yn ei llaw o’r holl feibion a fagodd.
19Y ddau (beth) hyn a ddigwyddasant i ti; pwy a ofidia drosot?
(Sef) dinystr a drylliad, newyn a’r cleddyf; pwy a’th gysura?
20Dy feibion a lewygasant, gorwedd y maent
Ym mhen pob heol fel tarw gwŷllt mewn rhwyd,
Yn llawn o angerdd llid Iehofah, o gerydd dy Dduw.
21Am hynny gwrando yn awr hyn, o gystuddiedig,
A’r feddw ond nid (trwy) win;
22Fel hyn y dywed dy Arglwydd Iehofah,
A’th Dduw (yr Hwn a) ddadleu (dros) Ei bobl,
Wele, cymmeraf o’th law di gwppan honciad,
Gwaddod cwppan angerdd Fy llid,
Ni chwannegi ei yfed mwy;
23A rhoddaf ef yn llaw dy gystuddwŷr,
Y rhai a ddywedant wrth dy enaid, Gostwng, fel yr elom drosot,
A thithau a osodaist dy gefn fel y llawr,
Ac fel heol, i’r rhai a aent drosto.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.