Rhufeiniaid 12 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Attolygaf i chwi, gan hyny, frodyr, trwy drugareddau Duw, roddi eich cyrph yn aberth byw, sanctaidd, boddhaol, i Dduw, yr hyn yw eich gwasanaeth rhesymmol.

2Ac na chyd-ymffurfiwch â’r byd hwn, eithr traws-ffurfier chwi trwy adnewyddiad eich meddwl, fel y profoch beth yw daionus, a boddhaol, a pherffaith ewyllys Duw.

3Canys dywedyd yr wyf, trwy’r gras a roddwyd i mi, wrth bob un y sydd yn eich plith beidio ag uchel-synied yn amgen nag y dylid synied, eithr synied mewn sobrwydd, fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffydd.

4Canys fel mewn un corph llawer o aelodau sydd genym, ac i’r aelodau oll nid yr un gwaith sydd,

5felly nyni yn llawer, un corph ydym yng Nghrist, a phob un yn aelodau i’n gilydd.

6A chan fod a chenym ddoniau gwahanol yn ol y gras a roddwyd i ni, pa un bynnag ai prophwydoliaeth, prophwydwn yn ol cyssondeb ein ffydd;

7ai gweinidogaeth, ymroddwn i’r weinidogaeth;

8neu’r hwn sy’n dysgu, i’r dysgad; neu’r hwn sy’n cynghori, i’r cynghoriad; neu’r hwn sy’n rhoddi, gwnaed yn haelionus; yr hwn sy’n llywodraethu, mewn diwydrwydd; yr hwn sy’n trugarhau, mewn llawenydd.

9Bydded cariad yn ddiragrith.

10Casewch y drwg; glynwch wrth y da; mewn cariad i’r brodyr, byddwch a serch i’ch gilydd;

11mewn anrhydedd, yn blaenori eich gilydd; mewn diwydrwydd, nid yn ddiog; yn yr yspryd, yn wresog;

12tua’r Arglwydd, yn Ei wasanaethu Ef; mewn gobaith, yn llawen; mewn gorthrymder, yn ddioddefgar; mewn gweddi, yn dyfal-barhau;

13i gyfreidiau’r saint cyfrenwch; a llettygarwch dilynwch.

14Bendithiwch y rhai sydd yn eich ymlid; bendithiwch, ac na felldithiwch.

15Llawenychwch gyda’r rhai sy’n llawenychu, gwylwch gyda’r rhai sy’n gwylo;

16yn synied yr un peth tua’ch gilydd; nid yn synied pethau uchel, eithr yn ymostwng i bethau isel. Na fyddwch ddoethion yn eich tyb eich hunain.

17I neb na thelwch ddrwg am ddrwg; darperwch bethau da yngolwg pob dyn.

18Os posibl yw, hyd y mae ynoch, byddwch mewn heddwch â phob dyn.

19Nac ymddielwch, rai anwyl, eithr rhoddwch le i ddigofaint; canys ysgrifenwyd, “I Mi y mae dial; Myfi a dalaf, medd Iehofah.”

20Eithr os newyna dy elyn, portha ef; os sycheda, dioda ef; canys wrth wneuthur hyn, marwor tanllyd a bentyri ar ei ben ef.

21Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga ddrygioni trwy ddaioni.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help